“Cyn dod i gysylltiad â The Wallich, roeddwn yn gweithio ar y ffyrdd yn gosod prif bibellau dŵr. Roedd bywyd yn iawn, roeddwn yn ennill arian gweddol, yn mynd i’r gampfa, yn berchen ar gar braf, roedd popeth yn dda.
Un diwrnod bûm mewn damwain car drasig, a newidiodd fy mywyd dros nos. Cefais fy nedfrydu i bum mlynedd o garchar, a threuliais ddwy flynedd a hanner i mewn.
Cyn i mi fynd i garchar, roeddwn wastad yn mynd i’r gampfa; yn hyfforddi pump neu chwe gwaith yr wythnos.
Tra oeddwn yn y carchar sefais fy holl gymwysterau ar gyfer y gampfa, lefel dau a thri gyda CYQ yr YMCA. Felly, roedd gobaith i mi gael cychwyn newydd pan fyddwn yn cael fy rhyddhau, a gwneud rhywbeth mae gen i wir ddiddordeb ynddo.
Hefyd llwyddais i gwblhau Cyflwyniad i Ffitrwydd Chwaraeon a Rheolaeth gyda’r Brifysgol Agored. Rwy’n gobeithio parhau â hwn y flwyddyn nesaf.
Deuthum i gysylltiad â The Wallich ychydig ar ôl i mi gael fy rhyddhau gan gyfarfod â Markus, fy Mentor BOSS, sydd wedi bod yn gymorth mawr i mi.
I ddechrau, trefnwyd fy mod yn mynd ar gwrs cymorth cyntaf, gan fod angen hynny i gyd-fynd â fy nghymwysterau ar gyfer y gampfa. Roedd yn gwrs deuddydd, Roedd yn wych, ac mi wnes i fwynhau’n arw.
Tra oeddwn yn y carchar, anfonais ychydig o lythyrau at wahanol gampfeydd ond chefais i ddim ateb.
Trefnwyd lleoliad gwaith i mi mewn campfa drwy brosiect BOSS; gwirfoddol oedd y trefniant ar y dechrau, felly gwnes hynny am ychydig o wythnosau.
Ar y diwedd, cefais gynnig swydd lawn-amser. Rwy’n dal yno. Roedd y ffaith bod tîm BOSS wedi cael lleoliad yn y gampfa rwyf ynddi nawr, yn drobwynt pwysig i mi.
Er fy mod yn dal yn y gampfa, rwy’n gobeithio lansio fy musnes fy hun yn 2018.
Rwy’n gobeithio bod yn y gampfa yn gynnar i hyfforddi ychydig o gleientiaid, rhoi hyfforddiant i bobl ac yna rwy’n gobeithio cael awr neu ddwy i hyfforddi fy hun.
Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd gyda Markus, a gydag Andrea fy Mentor Busnes hefyd. Gyda’u cymorth nhw, cefais glorian bwyso a pheiriannau monitro pwysedd gwaed, dau beth oedd eu hangen arnaf. Yn amlwg, yn fy sefyllfa ariannol i fyddwn i byth wedi gallu eu prynu, felly maen nhw wedi fy helpu’n ariannol.
Rwy’n barod i gychwyn. Rwyf wedi ennill y cymwysterau ac mae logo sydd angen ei ddylunio. Maen nhw’n fy helpu i baratoi fy ngwaith papur a fy anfonebau – mae gennym gynllun.
Mae’r ymdrech i’w sefydlu a dychmygu sut bydd yn edrych unwaith y bydd yn gweithredu’n bleser pur.
Bob tro y byddaf yn dod i weld Markus rydym yn cael sgwrs, mae’n clirio fy meddwl ac yn rhoi ffocws ar bethau. Fuaswn i ddim wedi gallu gwneud hyn heb eu cymorth.
Allwn i ddim gofyn am fwy, mae’r cymorth wedi bod yn wych ac rwy’n teimlo’n bositif iawn am y dyfodol, a’r cyfan oherwydd prosiect BOSS The Wallich. Alla i ddim diolch digon i chi.”
“Mae Tony wedi dod mor bell, ac mae’r ymrwymiad iddo’i hun, i brosiect BOSS ac i The Wallich wedi bod yn arbennig.
Hefyd mae Tony wedi cwblhau cwrs hyfforddi a mentora drwy broisect BOSS a Phrifysgol Caerdydd. Mae wedi gweithio’n galed iawn. Mae wedi cyflawni popeth a ofynnwyd iddo a hynny heb feddwl ddwywaith.
Weithiau roedd amheuaeth neu ddiffyg hyder ganddo ond mae Tony yn ŵr arbennig ac mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ef.”