Cyhoeddwyd gyntaf ar Wales Online
Mae’r pwysau ar bobl a gwasanaethau yn anghynaladwy ac mae angen newid radical ar y system.
Mae’r niferoedd uchel o bobl sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref wedi rhoi pwysau aruthrol ar lety dros dro ac wedi gadael miloedd o bobl yn aros am gyfnodau hir neu amhenodol am gartref parhaol.
Ar hyn o bryd mae 10,931 o bobl yn byw mewn llety dros dro, sydd yn aml yn anaddas – llawer ohonynt heb fawr ddim mynediad at gyfleusterau coginio a golchi dillad – ac mae’r niferoedd hyn yn cynyddu bob mis. Mae dros 174 o bobl yn cysgu allan ledled Cymru ar hyn o bryd, cynnydd o 68% ers 2021.
Y gwirionedd trist yw bod mwy o bobl newydd yn cyflwyno eu hunain yn ddigartref i’r system, nag sy’n cael eu hailsefydlu’n llwyddiannus mewn cartrefi tymor hir.
Yn syml, nid yw’r cyflenwad tai’n bodoli, ac mae ôl-groniad yn y system.
Mae’r rheini sy’n gweithio ar y rheng flaen i gefnogi pobl sy’n ddigartref, mewn elusennau ac awdurdodau lleol, yn ei chael hi’n anodd.
Maen nhw dan bwysau aruthrol, wedi gweithio mewn amgylchiadau anodd iawn yn ystod y pandemig ac, mewn llawer o achosion, bellach heb ragor o opsiynau i’w rhoi i bobl.
Yn y cyd-destun llwm hwn, mae The Wallich yn croesawu argymhellion y Panel Adolygu Arbenigol, a sefydlwyd i helpu i adolygu deddfwriaeth digartrefedd ar ôl Cynllun Gweithredu Lefel Uchel Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru yn 2021 i sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn ‘anghyffredin, yn fyr, ac ddim yn cael ei ailadrodd.’
Ni fydd newid deddfwriaethol ar ei ben ei hun yn datrys y problemau y mae’r sector yn eu hwynebu ond bydd yn dileu rhwystrau mympwyol sy’n achosi digartrefedd ac yn gwneud bywyd yn anoddach i bobl sy’n ei wynebu.
Yn benodol, rydym ni’n croesawu dileu’r profion angen blaenoriaethol a’r profion bwriad yr ydym ni wedi bod yn galw amdanynt dros nifer o flynyddoedd.
Rydym ni’n credu y dylai pawb sy’n ddigartref fod yn flaenoriaeth, ac nad oes neb yn fwriadol ddigartref heb reswm.
Roedd natur oddrychol y profion a’r ffaith bod y meini prawf yn cael eu defnyddio’n anghyfartal ar draws Cymru yn golygu bod llawer o bobl agored i niwed yn cael eu hanwybyddu.
Roedd pobl yn dal i wynebu cysgu allan fel eu hunig opsiwn – a chafodd gormod o fywydau eu niweidio drwy beidio â chael y gefnogaeth roedd ei hangen arnyn nhw.
Cafodd y ‘profion’ hyn eu dileu yn ystod y pandemig wrth i’r dull ‘neb yn cael ei adael allan’ gael ei roi ar waith. Rydym ni’n falch y bydd y newid hwn yn barhaol cyn bo hir.
Fodd bynnag, byddem ni wedi hoffi gweld yr adroddiad yn mynd ymhellach i argymell bod y prawf cysylltiad lleol yn cael ei ddiddymu hefyd.
Mae Adran 80 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn galluogi awdurdodau tai lleol i wrthod ymgeiswyr digartref sydd heb ‘gysylltiad lleol’ â’u hardal.
Gall cysylltiad lleol gynnwys bod yn breswylydd yn yr ardal, cael eich cyflogi neu fod â cysylltiadau teuluol yn yr ardal, yn ogystal ag ‘amgylchiadau arbennig’ eraill (sy’n aml yn cael eu camddehongli).
Mae llawer o dystiolaeth yn adroddiad y Panel Adolygu Arbenigol sy’n egluro pam mae’r prawf hwn yn rhwystr – yn enwedig i grwpiau penodol fel y rheini sy’n gadael y carchar, y rheini sy’n ffoi rhag trais domestig a’r rheini sy’n gwella ar ôl defnyddio sylweddau.
Mae’r argymhelliad gan y panel i ychwanegu mwy o fesurau diogelu ar gyfer grwpiau penodol sydd mewn perygl mewn perthynas â chysylltiad lleol o leiaf yn gam i’r cyfeiriad iawn.
Rydym ni hefyd yn falch bod y panel wedi gwneud argymhellion ar gyfer newid y system yn ehangach ac ar gyfer rhagor o gydweithio rhwng gwasanaethau cyhoeddus.
Anaml iawn y mae digartrefedd yn fater sy’n ymwneud â thai yn unig ac ni chaiff ei ddatrys gan dai yn unig.
Yr hyn y mae angen inni ei weld ar frys, ochr yn ochr â’r newid deddfwriaethol arloesol hwn, a chynnydd yn y cyflenwad tai, yw ariannu i sicrhau bod digon o wasanaethau a staff cymorth sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i alluogi pobl i gael yr help sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.
Gwelodd y sector doriad cyllid mewn termau real yn y gyllideb ddiweddaraf, ac mae’r broses gomisiynu bresennol yn annog ras i’r gwaelod o ran pris.
Mae’n golygu y gall darparwyr fel The Wallich, sy’n ceisio darparu gwasanaethau cymorth proffesiynol o ansawdd uchel, ei chael yn anodd denu a chadw staff gan geisio rhedeg y mudiad am gost ddigon isel i ennill tendrau.
Mae darparu cymorth o safon i’n cleientiaid yn sicr yn waith caled, oherwydd mae gofyn i staff feddu ar wybodaeth a sgiliau uwch ym maes tai, yn ogystal â’r maes gofal sy’n seiliedig ar drawma, a hyd yn oed sut i ymateb i argyfyngau iechyd.
Er eu bod yn teimlo fel gweithiwr cymdeithasol, therapydd neu barafeddyg hyd yn oed, anaml iawn y mae’r staff yn ysgwyddo cyfrifoldebau o’r fath, sy’n golygu bod staff cymorth yn teimlo’n ddigalon ac nad yw eu gwerth yn cael ei gydnabod.
Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn sicrhau bod gan y rhai sy’n wynebu digartrefedd hawl i’r cymorth sydd ei arnynt ei angen, ond amser a ddengys a fydd y system a gynlluniwyd i’w helpu yn gallu ateb y galw.