Tai, llesiant, diogelwch; dim ond ychydig o’r pethau mae rhai ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Yn anffodus, mae’n syndod cynifer o bobl sy’n wynebu rhwystrau rhag gallu mwynhau’r hawliau sylfaenol hyn.
Mae systemau ar waith i amddiffyn y bobl fwyaf bregus, ond mae llawer yn dal i ddisgyn drwy’r craciau. Rydw i’n arwain prosiect cymorth The Wallich yn ymwneud â thai yng Nghastell-nedd Port Talbot, lle mae’r bobl rydyn ni’n eu helpu yn enghraifft berffaith o’r rhai sy’n llithro drwy’r rhwyd.
Mae sefyllfa ansicr o ran cartref yn achosi straen mawr; amseroedd aros sy’n ymddangos yn ddiddiwedd, gorfod ailadrodd hanes bywydau blaenorol maen nhw’n ceisio dianc ohonynt, a’r felin emosiynol y mae rhywun yn mynd drwyddi pan fydd cynnig o gartref yn dibynnu ar sut argraff wnewch chi mewn cyfweliad – anaml y mae’r cydbwysedd grym o’ch plaid chi.
Yn ogystal â darparu’r cymorth angenrheidiol yn y cyswllt hwn, mae The Wallich eisiau galluogi pobl i wella’u sgiliau ymdopi mewn ffyrdd creadigol. Mae tlodi, iechyd meddwl a lles emosiynol neu ofnau am ddiogelwch sydd y tu hwnt i’w rheolaeth nhw yn aml yn dwysáu problemau yn ymwneud â thai; boed nhw ar y stryd, bod ganddynt landlordiaid rheibus neu eu bod yn byw o dan amodau gwael.
Roeddwn i am i’r gwasanaeth ganfod ffordd o helpu i dynnu sylw oddi wrth y rhwystrau hyn ac, ar yr un pryd, gynnig rhywbeth cadarnhaol a phleserus a allai fod yn fodd i dynnu sylw at y cryfder aruthrol y mae wedi’i gymryd i gyrraedd lle maen nhw
Yn ffodus, a ninnau’n byw yng Nghymru, roedd un ateb yn llythrennol ar riniog y drws. Yn y mannau gwyllt o’n cwmpas ym mhobman, o arfordir garw Cymru i afonydd troellog a choetiroedd hynafol ein Cymoedd, hyd at gopaon ein mynyddoedd uchaf.
Gan fy mod i wedi ymwneud â’r awyr agored am flynyddoedd lawer, yn bersonol ac yn broffesiynol, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun yr effaith gadarnhaol y mae treulio amser yng nghefn gwlad yn gallu’i chael ar les unigolyn. Efallai nad yw’n apelio at bawb, ond pe bai gweithgareddau awyr agored yn gallu bod o fudd i ddim ond dyrnaid o’r 340 o bobl yr oedd ein prosiect yn gweithio gyda nhw ar y pryd, byddai wedi bod yn werth chweil.
Ar ôl ymgyrch fer, ond lwyddiannus, i godi arian, a chyfarfod difyr a brwdfrydig gyda Stuart o Tread Gower, daeth syniad i’r fei.
Cynlluniwyd dau sesiwn i ddenu defnyddwyr ein gwasanaeth allan o’u hamgylchedd arferol; eu tynnu oddi wrth asesiadau anghyfforddus a chwestiyngar, ofnau am eu diogelwch neu demtasiwn, ac allan i’r mannau agored lle gallwch glywed sŵn tawelwch, gydag adar hela yn troelli uwchben ar yr awel, defaid yn pori ar y bryniau a golygfeydd am filltiroedd. Mynd i leoedd sy’n gwneud i rywun ryfeddu a chynnig lle i anadlu a myfyrio mewn amgylchedd lle nad oes drwg yn mynnu sylw, gan roi gorffwys oddi wrth y prysurdeb diddiwedd sy’n gallu llethu mewn bywyd bob dydd.
O gofio mor agos yw Castell-nedd Port Talbot at Fannau Brycheiniog, rhaid oedd mynd i grwydro yn y fan honno am ddiwrnod.
Ar ôl recce gan Stuart, ein harweinydd mynydd, a rhywfaint o bwyso a mesur gen i ar f’anturiaethau yn y mynyddoedd, i gyfeiriad Bannau Sir Gâr y penderfynon ni fynd, i lyn gwyllt hudolus yn y mynyddoedd o’r enw Llyn y Fan Fawr. Lle arbennig, yn cadw draw oddi wrth y llwybrau arferol i fyny Pen y Fan y mae’r Parc Cenedlaethol hwn yn fwyaf adnabyddus amdanynt.
Yna, os oedd gallu yn caniatáu, ymlaen i’r copa uchaf yn yr ardal, Fan Brycheiniog; mynydd 800m+ o uchder, glaswelltog, sy’n cynnig golygfeydd panoramig ar draws mwy neu lai y parc cyfan, o Ben-y-begwn yn y dwyrain, hyd at Gastell Carreg Cennen yn y gorllewin, ardal sy’n llawn rhyfeddodau daearegol, treftadaeth Geltaidd a chwedlau Arthuraidd.
Daeth chwech o’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw i’n “Profiad Mynydd” cyntaf. Roedd rhai’n dweud yn agored eu bod nhw braidd yn bryderus am y diwrnod, er bod hynny diolch byth yn cael ei wrthbwyso â chyffro ynglŷn â’r hyn oedd i ddod.
Ar ddiwedd y diwrnod, dywedodd un o’r defnyddwyr,
Dydw i ddim wedi meddwl am fy mhroblemau na ble rydw i’n mynd i gysgu heno drwy’r dydd
O ystyried yr heriau y mae’n eu hwynebu drwy fod yn ddigartref, gwella o gamddefnyddio sylweddau ac anawsterau gyda’i iechyd meddwl, rwy’n meddwl bod hynny yn ddatganiad hynod o bwerus.
Rhoddodd y bobl a ddaeth ar y diwrnod yr argraff eu bod wedi cael amser arbennig a gwnaethant sylwadau cadarnhaol am y profiad a’i effaith ar eu gallu i ddelio â rhai o’r sialensiau maen nhw’n eu hwynebu.
Mae’r profiad yn dangos bod tai yn fwy na dim ond mater sy’n effeithio ar y to uwchben rhywun. Alla i ddim disgwyl i weld sut byddwn ni’n datblygu’r cynllun hwn ymhellach i hybu iechyd corfforol a meddyliol y rhai rydyn n’n eu cefnogi, yn ogystal â meithrin eu hyder, cynnig hobi newydd sy’n gost-effeithiol, ac ymdeimlad o gyflawni na fyddai llawer wedi credu y gallen nhw ddyfalbarhau ag ef.