Rhodd Cymorth: sgwrs am dreth a thicio’r bocs

30 May 2019
Neges gan Michael Cowley, Uwch Reolwr Codi Arian a Phartneriaethau

Rydych chi wedi gwneud ymdrech i noddi rhywun sy’n rhedeg marathon neu rydych chi wedi cyfrannu eitemau at siop elusen, rydych chi’n penderfynu faint i’w gyfrannu ac wedyn mae’r cwestiwn yma’n cael ei ofyn – Fyddech chi’n hoffi rhoi Rhodd Cymorth?

Efallai bod hwn yn edrych fel cynllwyn arall i anfon e-bost marchnata arall atoch chi, ond peidiwch ag ofni, gall pŵer y bocs bach yma wneud byd o wahaniaeth i’r bobl sy’n cael eu cefnogi gan yr elusennau hynny.

Rydyn ni’n meddwl ei bod yn bwysig rhoi gwybod i aelodau’r cyhoedd sut gall treth fod yn achubiaeth i rai elusennau ac, yn enwedig, y manteision enfawr sydd i’w cael o ddim ond ticio’r bocs Rhodd Cymorth.

Beth yw Rhodd Cymorth?

Bydd pob elusen yn siarad llawer am Rodd Cymorth, am reswm da. Mae Rhodd Cymorth yn codi mwy nag £1bn bob blwyddyn i elusennau’r DU – heb unrhyw gost i’r elusen a dim cost i’r rhoddwr hael.

Mae Rhodd Cymorth yn gynllun gan y llywodraeth sy’n galluogi i elusennau adfer y dreth rydych chi wedi’i thalu eisoes ar bob rhodd rydych chi’n ei gwneud. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu hawlio 25c ychwanegol yn ôl gan y swyddfa dreth am bob £1 sy’n cael ei chyfrannu.

Beth mae hyn yn ei olygu i bobl ddigartref yng Nghymru?

Y llynedd, fe wnaeth pob 25 ceiniog gyda’i gilydd ddod i gyfanswm gwych o £8,700 ar gyfer Y Wallich – swm enfawr o arian sy’n gallu gwneud byd o wahaniaeth.

O ran cyd-destun, mae hyn yn golygu bod cyfranwyr, drwy dicio bocs, wedi gallu helpu hyd at 240 o bobl i ddod oddi ar y stryd ac i mewn i le diogel am y noson.

Neu gallai ddarparu mwy na 12,000 o frecwastau poeth i bobl sydd wedi cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd – gan sicrhau eu bod yn cael o leiaf un pryd poeth y dydd a mynediad at wasanaethau hanfodol a allai eu helpu i gymryd y cam cyntaf allan o ddigartrefedd.

Ewch amdani!

Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes, rydyn ni wedi datblygu ffurflen ar-lein newydd lle gallwch chi gofrestru’n gyflym ac yn rhwydd ar gyfer Rhodd Cymorth.

Drwy roi ychydig funudau i lenwi’r ffurflen, byddwn yn gallu hawlio’r dreth yn ôl ar unrhyw roddion rydych chi wedi’u cyfrannu yn ystod y pedair blynedd diwethaf – yn ogystal â’ch rhoddion yn y dyfodol.

Cofrestru gyda Rhodd Cymorth heddiw 

Os gwnewch chi un peth heddiw, rhowch ychydig funudau i dicio’r bocs a helpu i wneud eich rhoddion hael eisoes fynd ymhellach.

Am fwy o wybodaeth am godi arian yn Y Wallich, ewch i’n tudalen benodol ni ar Godi Arian.