
Beth rydym ni eisiau gan Lywodraeth nesaf Cymru?
Bydd llywodraeth newydd yn cael ei ffurfio ar ôl etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026, a bydd ganddi ran bwysig i’w chwarae yn yr ymgais i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Rydym yn galw ar bwy bynnag sy’n ei ffurfio i ymrwymo i gyflawni ein pedair blaenoriaeth i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Sut y gall Llywodraeth Cymru nesaf helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
- Adeiladu llawer mwy o gartrefi cymdeithasol
- Cyllido gwasanaethau cymorth i’r digartref mewn modd cynaliadwy
- Sicrhau bod y Bil Digartrefedd yn dod yn gyfraith
- Polisïau iechyd digartrefedd i achub bywydau
Adeiladu llawer mwy o gartrefi cymdeithasol
Mae prinder mawr o gartrefi fforddiadwy, o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl ledled Cymru.
Er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru:
- Greu cymaint o gartrefi cymdeithasol newydd â phosibl ledled Cymru gyfan, gan sicrhau bod cyfanswm nifer a chanran y cartrefi cymdeithasol yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.
- Adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd, ac ail-wneud amcangyfrif o 103,000 o gartrefi gwag neu rai wedi’u tanfeddiannu, gan fodloni’r safonau ansawdd uchaf o ran tai.
- Ariannu awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu cartrefi newydd. Rhaid iddynt fod yn fforddiadwy a diwallu anghenion cymunedau lleol.
- Parhau i flaenoriaethu hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat, gan sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal a phobl yn cael eu diogelu rhag gwahaniaethu a chael eu troi allan ar fympwy.
Heb gynyddu’n sylweddol nifer y cartrefi fforddiadwy sydd ar gael, ni fyddwn yn gallu rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, a bydd pobl yn parhau i fod mewn llety dros dro anaddas.
Cyllido gwasanaethau cymorth i’r digartref mewn modd cynaliadwy
Credwn fod pawb yn gallu cynnal tenantiaeth, ar yr amod bod ganddynt y gefnogaeth gywir.
Er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, rhaid i Lywodraeth Cymru nesaf:
- Ddarparu ymrwymiadau cyllido aml-flwyddyn ar gyfer y Grant Cymorth Tai, gan roi cyfrif am chwyddiant a galw cynyddol. Mae hyn yn talu am wasanaethau i’r digartref y profwyd sy’n gweithio, gan gynnwys Tai yn Gyntaf, Ailgartrefu Cyflym, allgymorth, canolfannau galw heibio a llety â chymorth tymor hir.
- Cydnabod gweithwyr digartrefedd fel rhai ymroddedig, medrus iawn ac allweddol i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda chomisiynwyr a darparwyr ar draws y sector i sicrhau bod cyflog a chydnabyddiaeth deg sy’n cyfateb i gymhlethdod a phwysigrwydd eu rôl.
- Dal pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i gyfrif er mwyn sicrhau eu bod yn comisiynu gwasanaethau cymorth yn unol â Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, gan ganolbwyntio ar atal a diwallu anghenion cymunedau lleol.
- Sicrhau bod yr holl awdurdodau yn dangos cynnydd pendant i symud oddi wrth orddibyniaeth ar lety dros dro tuag at Ailgartrefu Cyflym gwirioneddol.
Mae gwasanaethau atal ac wrth gefn o ansawdd uchel yn sicrhau bod digartrefedd yn beth prin, yn fyrhoedlog a ddim yn digwydd eto.
Sicrhau bod y Bil Digartrefedd yn dod yn gyfraith
Rhaid i Gymru gyflawni uchelgeisiau’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) i ymgorffori dull gwasanaeth cyhoeddus cyfan o roi terfyn ar ddigartrefedd.
Er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru:
- Hyfforddi a grymuso staff ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol, 7 Bwrdd Iechyd, 32 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, Carchardai a Gwasanaethau Prawf EF, a Chanolfannau Gwaith i ofyn i bobl am eu risg o ddigartrefedd a’u cysylltu â’r asiantaethau mwyaf priodol. Rhaid i’r gefnogaeth a’r cyngor hwn fod yn ystyriol o drawma.
- Sicrhau bod tai, iechyd meddwl, defnyddio sylweddau, a gwasanaethau cyfiawnder troseddol yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau nad oes unrhyw un wedi’i eithrio o wasanaethau mewn argyfwng.
- Gweithio’n rhagweithiol gyda charchardai, gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd cleifion mewnol i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei ryddhau o ofal y wladwriaeth i fod yn ddigartref.
- Cynnwys pobl sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd ym mhob cam wrth gyd-gynllunio polisi a gwasanaethau i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Mae a wnelo digartrefedd â mwy na dim ond diffyg cartrefi – rhaid i ni gyd weithio gyda’n gilydd i gefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau.
Polisïau iechyd digartrefedd i achub bywydau
Mae’n drasiedi mai disgwyliad oes cyfartalog rhywun sy’n cysgu allan yng Nghymru yn 2025 yw dim ond 43 i fenywod a 45 i ddynion. Mae nifer y bobl sy’n marw heb gartref parhaol yn annerbyniol.
Er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru, rhaid i Lywodraeth Cymru nesaf:
- Wella’n sylweddol y mynediad at wasanaethau iechyd corfforol a meddyliol, gan newid ffocws ei ymagwedd at ddefnyddio cyffuriau ac alcohol tuag at iechyd y cyhoedd a lleihau niwed, yn hytrach na chosb droseddol a stigma parhaus.
- Gweithio gyda phartneriaid ar raglenni iechyd i atal salwch a marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau. Dylai Cymru dreialu Canolfan Atal Gorddos i achub bywydau.
- Grymuso byrddau iechyd i fynd â gwasanaethau’n uniongyrchol at bobl sy’n ddigartref, mewn partneriaeth â gwasanaethau allgymorth presennol. Gallai hyn wella ansawdd bywyd yn sylweddol a lleihau’r galw ar wasanaethau iechyd cyhoeddus prif ffrwd.
Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos yn gyson bod polisïau iechyd cynhwysiant a lleihau niwed yn achub bywydau ac yn helpu pobl i symud ymlaen o ddigartrefedd am byth.
Sut mae cymryd rhan?
Darllen Maniffesto The Wallich.
Gofyn i bleidiau gwleidyddol a’u hymgeiswyr yn eich ardaloedd lleol beth yw eu cynlluniau ar gyfer tai a digartrefedd.
Gofyn iddyn nhw ymrwymo i’n galwadau i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, gwasanaethau cymorth a newid systemig go iawn i achub bywydau.