Os ydych chi’n aros yn eich cartref neu’n ddigon ffodus i fwynhau gwyliau gartref yn y DU, gallwch gael y teimlad o wyliau o hyd drwy archebu ein set cyfyngedig o Gardiau Post o Gartref.
Cadwch mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau yr haf hwn – hyd yn oes os nad yw ond i ddweud eich bod ym meddwl amdanyn nhw.
Mewn cydweithrediad ag I Loves the ‘Diff, cafodd ein cardiau post eu dylunio gan wyth o artistiaid Cymreig gwych fel ffordd o gyfathrebu â’ch hanwyliaid a rhoi rhywbeth hardd iddyn nhw ei gadw.
Am £5, aiff yr holl elw i The Wallich i helpu pobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru.
Wedi ei eni yng Nghaerdydd ond bellach wedi’i leoli yn Llundain, mae Pete Fowler yn crwydro meysydd cerddoriaeth, darlunio, dylunio teganau, gwneud printiau, peintio, prosiectau masnachol, a brodwaith croesbwyth drwy ei gelf.
Mae ei ddelweddau mwyaf adnabyddadwy wedi bod ar gyfer albymau, fideos a nwyddau’r grŵp roc Super Furry Animals.
Darlunydd lleol o fri, mae arddull celf stryd Phil Morgan yn adnabyddadwy ar unwaith ac yn boblogaidd iawn.
Yn llawn cyfeiriadau at gerddoriaeth a sglefrfyrddio – ac weithiau diwylliant Cymreig – mae gwaith Phil yn cymryd elfennau adnabyddus o ddiwylliant pop byd eang ac yn rhoi pwrpas newydd iddynt gyda winc, gwên ac – yn eithaf aml – bys canol.
Mae Rohanne yn ddylunydd graffeg ac arlunydd yng Nghaerdydd.
Gan ddefnyddio’i gradd mewn dylunio graffeg a’i hangerdd ei hun am gelf draddodiadol, mae’n mwynhau cyfuno’r sgiliau hyn i greu darnau gwrthgyferbyniol sy’n canolbwyntio ar fynegiant a lliw.
Yn ddarlunydd llawrydd, mae gan Sophie gefndir yn ieithoedd a diwylliant Japan a Ffrainc, ac mae’n arbenigo mewn darlunio ar gyfer busnesau, pecynnu a gwaith golygyddol.
Mae gwaith Sophie yn aml yn cael ei nodweddu gan flodau ac anifeiliaid, gwrthrychau diddorol a lliwiau llachar.
Ganwyd Frank yn yr Alban ond magwyd ef yng ngogledd ddwyrain Lloegr ac fe’i hyfforddwyd ym maes dylunio graffeg yno cyn dod i Gymru i astudio darlunio bywyd gwyllt.
Daeth gwaith ag ef i Gaerdydd, ac ymsefydlodd ym Mhenarth. Wedi gyrfa fer ym maes argraffu, mae bellach yn arlunio. Yn arlunydd tirluniau yn bennaf, mewn olew a dyfrlliw, mae’n well ganddo beintio’n uniongyrchol o fyd natur, gan weithio’n gyflym gyda phalet cyfyngedig gan geisio cipio’r ddelwedd o’i flaen yn y ffordd fwyaf cynnil bosibl.
Website / Instagram / Twitter / Facebook
Mae cerdyn post I Loves the ‘Diff yn ddelwedd gan Ian Johnson, a dynnwyd ar 1 Mai 2020.
“Mewn gwirionedd dim ond llun sydyn a dynnais ar fy ffôn wrth i mi fynd i’r gwaith fore Gwener diwethaf,” meddai Ian, sy’n gweithio yn y BBC.
Fe wnaeth y llun, sy’n dangos un o Fysiau Caerdydd ar Heol y Parc gyda’i neges “Cheers Drive”, argraff ar lawer o bobl ar-lein a oedd yn colli Caerdydd ac a oedd hefyd yn dymuno mynegi eu diolch i’r gweithwyr allweddol a oedd yn cadw pethau i fynd.
Mae’r ffaith ei fod hefyd yn dangos Stadiwm Principality, wedi ei droi yn Ysbyty Calon y Ddraig, nid yn unig yn gosod ei leoliad – ni all fod ond yng Nghaerdydd – hefyd yn gwneud y ddelwedd yn llawer mwy perthnasol.
Prynwch becyn o wyth o gardiau am ddim ond £5
Gan mai elusen fechan ydym, bydd pob archeb am gardiau post yn cael eu hanfon allan bob dydd Gwener.