Gallwch gynorthwyo pobl sy’n ddigartref yn eich cymuned chi. Gall eich sgiliau a’ch amser chi wneud gwahaniaeth mawr.
Mae Gwirfoddoli Corfforaethol gyda The Wallich yn rhoi cyfle i chi a’ch cydweithwyr ddefnyddio’r doniau sydd gennych, datblygu sgiliau newydd, cwrdd ag amrywiaeth eang o bobl a dod yn aelod hollbwysig o’r tîm.
Mae gwirfoddoli yn cael dylanwad mawr ar sut y gallwn gefnogi amrywiaeth o wasanaethau.
Byddwn yn gweithio gyda chi i gael gwell dealltwriaeth o sut gallwn ddefnyddio eich sgiliau a’ch arbenigedd yn yr elusen, naill ai’n uniongyrchol gyda phobl sy’n ddigartref neu drwy gyflwyno eich gwybodaeth a’ch sgiliau unigryw i’n timau staff.
Beth bynnag yw eich sgiliau a’ch diddordebau, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r cyfle gwirfoddoli sydd fwyaf addas i chi ac i’ch busnes.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Wirfoddoli Corfforaethol ac am ffyrdd o gymryd rhan, cysylltwch â ni.
E-bost: Corporate@thewallich.net
Ffôn: 02920 668 464