Cael mwy o fudd o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol: datgloi manteision cudd o ran adnoddau dynol

gan Mike Walmsley

15 Jun 2019

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod codi arian i elusennau yn fanteisiol i broffil cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol eich busnes a’i fod yn cyfrannu i gymdeithas. Ond, a yw o fudd i’ch pobl chi?

Sut gallwch chi wneud yn siŵr fod ymdrech elusennol nesaf eich busnes yn ychwanegu gwerth i’ch staff? A yw’n cyflawni amcanion AD allweddol yn ymwneud â staff a datblygu tîm, sgiliau trosglwyddadwy a CPD? A yw’n creu cyfle i roi llais i’r gweithwyr?

Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol sydd o fudd i bawb

Yn y Wallich, rydym wedi rhedeg cystadleuaeth i fusnesau dros y pum mlynedd diwethaf o’r enw Clash of the Corporates. Mae cwmnïau’n cystadlu yn erbyn ei gilydd i godi’r mwyaf o arian o fuddsoddiad o £50 dros 50 diwrnod. Mae’r arian sy’n cael ei godi yn cael ei wario i helpu pobl sy’n ddigartref yng Nghymru.

Pan ymunais i â’r Wallich yn 2017, roedd y ffocws ar yr agwedd codi arian. Roedden ni’n siarad am y fenter mewn termau ariannol pur – dychmygwch fresys coch, Wall Street a phapurau £50. Ond, yn gwbl briodol, rydym wedi newid y pwyslais i ddatblygu sgiliau a chreu timau llwyddiannus er mwyn creu newid sydd o fudd i bawb.

Y timau sy’n perfformio’n dda yw’r rhai sy’n creu strwythur lle gall syniadau da lwyddo. Maen nhw’n gosod targedau, yn sefydlu rolau a chyfrifoldebau, yn cyfathrebu, cynllunio a rheoli amser yn effeithiol, ac yn dadansoddi’r risgiau a’r buddion – pob un ohonynt yn sgiliau sydd o fudd i’r rhai sy’n cymryd rhan ac i’r busnes.

Mae Clash of the Corporates yn creu strwythurau sy’n caniatáu iddynt berfformio. O ganlyniad, rwy’n treulio llai o amser yn siarad am gynhyrchu incwm a mwy am ddatblygu timau llwyddiannus – ac mae’n gweithio.

Yn 2017, roedd gen i naw tîm yn cystadlu – 60% yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Ond, fe godon nhw 280% yn fwy, gan gynyddu’r incwm cyfartalog fesul tîm o £360 i £2,460. Timau sy’n perfformio ar lefel uchel yn wir.

Os hoffech chi herio eich tîm a helpu i fynd i’r afael â digartrefedd, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn gweld pa mor bell y gall eich timau ddatblygu.