Bwrdd Bondiau Merthyr

The Wallich, 12 Heol Hanbury, Pont-y-pŵl, NP4 6JL

Merthyr Tudful

01495 362 196

Mae Bwrdd Bondiau Merthyr yn helpu pobl ar incwm isel i ddod o hyd i lety rhent preifat a thalu eu blaendal

Inspire - The Wallich, Cardiff 26/08/2021

 

Mae’r Bwrdd Bondiau yn rhoi fondiau pres i dalu cost blaendal ar fflat neu dŷ preifat i’w rentu. Dim ond mewn rhai amgylchiadau y disgwylir i’r benthyciadau gael eu had-dalu.

Yna disgwylir i’r tenant gynilo drwy Gyfrif Cynilo Undeb Credyd. Yn ystod eich tenantiaeth, gellir cynilo swm y bond mewn taliadau llai bob mis – gan roi’r bond nesaf i chi ar eiddo neu dalu am unrhyw ddifrod a allai ddigwydd pan fyddwch chi’n gadael. Gofynnwch am ragor o wybodaeth am hyn.

Mae’r gostyngiad mewn tai cymdeithasol a’r cynnydd ym mhrisiau tai wedi achosi mwy o gystadleuaeth i rentu’n breifat yng Nghymru.

Mae taliadau ymlaen llaw – gan gynnwys arian bond a rhent ymlaen llaw – yn golygu nad yw llawer o bobl sydd ar incwm isel yn gallu fforddio llety yn y Sector Rhentu Preifat.

CEFNOGAETH ARALL

Yn ogystal â darparu cymorth ariannol, mae’r Bwrdd Bondiau yn helpu tenantiaid i symud ac ailsetlo.

Rydym hefyd yn helpu i feithrin perthynas dda gyda landlordiaid lleol.

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfryngu a datrys problemau, os yw’r berthynas rhwng tenant a’r landlord yn chwalu.

Drwy helpu pobl gyda’u blaendal a gwella’r berthynas rhwng tenantiaid a landlordiaid, gobeithiwn helpu i atal digartrefedd ar draws Merthyr.

Atgyfeirio

I atgyfeirio achos at y Bwrdd Bondiau, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Dim ond y cyngor sy’n gallu cyfeirio pobl at gymorth.

Cyfeiriad: Y Swyddfa Cyngor ar Dai, Wheatsheaf Ln, Merthyr Tudful CF47 8AY

Oriau agor: Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener – 10am – 12pm ac 1pm – 3pm

E-bost: Housing@merthyr.gov.uk

Ffôn: 01685 725000

Argyfwng digartrefedd y tu allan i oriau swyddfa: 01685 725336

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni.