Tai yn Gyntaf Gwynedd

13c Llys Onnen, Parc Menai, LL57 4DF

Gwynedd

01248 572760

Mae Tai yn Gyntaf Gwynedd yn helpu pobl sy’n profi digartrefedd i ddod o hyd i gartref parhaol, gan ddarparu cymorth parhaus i’w helpu i ymgartrefu a chynnal eu cartref newydd

Darperir becyn gymorth dwys gan Tai yn Gyntaf i fynd i’r afael â materion mewn ffordd greadigol ac arloesol.

Beth yw Tai yn Gyntaf?

Yr egwyddor y tu ôl i’r gwasanaeth yw bod angen i bobl ddigartref gydag anghenion tai a chefnogaeth gronig gael cynnig ‘tŷ yn gyntaf’ – yn hytrach na chael eu rhoi mewn llety argyfwng, sy’n aml yn anaddas i’w hanghenion, yna llety dros dro, cyn symud i gartref parhaol.

Unwaith y bydd ganddynt ofod diogel a hir-dymor, gall gweithwyr achos yna cynnig cefnogaeth ddwys sydd wedi ei deilwra yn benodol at anghenion yr unigolyn.

Mae gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn wasanaeth arbenigol sydd ar gael trwy atgyfeiriad yn unig. Os ydych chi’n ddigartref, neu’n poeni am rywun sy’n cysgu allan, cysylltwch â gwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd:

01766 771000

digartef@gwynedd.llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni: 01248 572760

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Gyngor Gwynedd trwy Grant Cefnogi Tai Llywodraeth Cymru.