Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn diddymu Deddf Crwydradaeth 1824 yn llawn erbyn gwanwyn 2026, gan sicrhau na ellir ystyried cysgu allan yn drosedd mwyach.
Ers blynyddoedd lawer, mae The Wallich wedi cefnogi’r ymgyrch dan arweiniad Crisis i gael gwared ar y Ddeddf Crwydradaeth, felly rydyn ni’n falch iawn o glywed y bydd y gyfraith hen ffasiwn hon yn cael ei diddymu o’r diwedd.
Cyhoeddwyd y tro cyntaf yn 2022 y byddai’r Ddeddf Crwydradaeth yn cael ei diddymu, ond nid oedd y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd wedi cadarnhau’n ffurfiol pryd y byddai’n cael ei dileu o’r gyfraith.
Mae Llywodraeth Lafur y DU bellach wedi ‘ymrwymo i gwblhau’r diddymiad o fewn blwyddyn, erbyn Gwanwyn 2026’.
Er bod hon yn fuddugoliaeth symbolaidd i’w chroesawu, mae gan heddluoedd Cymru a Lloegr bwerau sylweddol o hyd i gosbi pobl sy’n byw ar y stryd, yn bennaf drwy Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Mae gan yr Heddlu bŵer o hyd i symud pobl os ydynt o’r farn eu bod yn “aflonyddu” aelodau o’r cyhoedd. Mae hyn, fel y gwyddom, yn dibynnu i raddau helaeth ar sut mae dehongli “aflonyddu”. Cyfeirir at resymau fel “begera ymosodol”, sy’n anodd ei ddiffinio.
Mae gan awdurdodau lleol hefyd y pŵer i greu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, sy’n gallu gwahardd cardota neu gysgu allan mewn ardal benodol, fel canol trefi.
Yn The Wallich, rydyn ni’n credu bod y dull hwn yn wrthgynhyrchiol, gan ei fod yn gallu creu rhwystrau rhag cael gafael ar wasanaethau priodol.
Mae’r ystadegau swyddogol diweddaraf ar gyfer Cymru yn nodi bod 130 o bobl yn cysgu allan ym mis Mawrth 2025, ac mewn ardaloedd sydd â gwasanaethau allgymorth cyfyngedig, gallai hyn fod yn amcangyfrif rhy isel.
Rydyn ni’n croesawu diwedd y Ddeddf Crwydradaeth, ond byddwn yn parhau i ymgyrchu dros roi diwedd ar droseddoli a stigmateiddio pobl sy’n ddigartref.