Ar draws y Deyrnas Unedig, yn cynnwys yng Nghymru lle mae The Wallich yn gweithredu mewn 19 o’i 22 awdurdod lleol, mae mwy o dystiolaeth nag erioed o’r blaen i helpu bob un ohonom i ddeall cymhlethdodau dyrys digartrefedd. Mae gennym well gwasanaethau nag erioed o’r blaen, ewyllys wleidyddol gref, strategaethau niferus, cefnogaeth gyhoeddus a thimau brwdfrydig – oll ag un ffocws cyffredin. Felly, pam ydym ni’n methu, fel cymdeithas, â dod â’r rhai sy’n cysgu allan oddi ar y strydoedd?
Rhan o’r broblem yw bod diwylliant byw ar y stryd wedi newid. Mae cyffuriau gwahanol, perthnasoedd yn wahanol, mae’r cyd-destun economaidd-gymdeithasol yn wahanol. Rydym mewn tiriogaeth newydd, eto i gyd nid yw gwasanaethau’n ddigon hyblyg i ymateb i hyn. Yn y pen draw, mae ein timau’n dyst i ddirywiad cydlyniant cymunedau sy’n byw ar y stryd, sy’n adlewyrchu’r dirywiad yn ein cymuned prif ffrwd ehangach. Yn y blynyddoedd a fu, roedd cyflenwyr sylweddau anghyfreithlon a defnyddwyr sylweddau anghyfreithlon ymysg y rhai oedd yn gysylltiedig â digartrefedd ar y cyfan yn endidau ar wahân. Yn fwy diweddar, cam-fanteisir yn gynyddol ar bobl sy’n byw ar y stryd, fel dosbarthwyr, ac maent yn fwyfwy agored i drais a throseddau wedi’u trefnu. Mae’n fyd cystadleuol allan yna ac mae normau cymdeithasol traddodiadol ymysg isddiwylliannau’n araf ddiflannu; mae sefyllfaoedd yn mynd yn fwy dwys ac mae’r ymdeimlad o gymuned ymysg pobl ddigartref yn dirywio.
Mae newid sylweddol, pryderus hefyd yn yr holl naratif ynglŷn â’r mater. Mae diwylliant beio a rhethreg negyddol yn llithro drwy’r bylchau lle mae gwendidau amlwg, rydym yn gweld gwrthdaro rhwng partneriaid a phenawdau syfrdanol; mae hyn yn tynnu sylw oddi wrth y broblem ac nid yw o unrhyw fantais. Sut ydym ni wedi cyrraedd sefyllfa, fel cymuned, lle mae unigolyn yn cael ei feio am farw yn y stryd oherwydd bod llety ar gael, er bod hwnnw’n un anaddas neu’n un sy’n ei eithrio’n gymdeithasol? Pryd daeth hi’n dderbyniol i aelod o’r cyhoedd neilltuo amser i ysgrifennu llythyr atom, yn mynegi eu dicter wrth weld pebyll yn difetha eu taith siopa? Mae digartrefedd wedi mynd yn fwy unig fyth.
Mae’r gymuned brif ffrwd yn darnio ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn y gymuned ddarniog sydd ar y stryd. Mae hefyd yn peri ofn fod y darnio hwn i’w weld o fewn y sector proffesiynol sydd i fod i fynd i’r afael â phroblem ddigartrefedd. Mae’r argyfwng o ran arweinyddiaeth ym maes digartrefedd ac mae wedi datblygu’n broblem gynddrwg â’r argyfwng tai.
Rhaid i ni ddod o hyd i ffordd i ennyn tosturi wrth gomisiynu a hybu ffordd gynaliadwy o gefnu ar ddigartrefedd i’r rhai yr ydym yn methu â’u helpu ar hyn o bryd. Rhaid cydnabod effaith Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) a thrawma cymhleth. Rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd i weithio’n therapiwtig ac mewn ffordd sy’n seiliedig ar anghenion seicolegol gyda phobl ddigartref a bregus sy’n aml wedi dioddef trawma erchyll a sylweddol drwy gydol eu bywydau. Nid oes ateb sydyn i’r sefyllfa bresennol; mae hwn yn fethiant yn ein sector a rhaid ei gydnabod, ei ariannu’n briodol a mynd i’r afael â dulliau arloesol i gael pobl oddi ar y strydoedd i le diogel.
Hefyd mae tystiolaeth helaeth am drawma dros eraill a sut mae gweithio â chymhlethdodau lluosog ac ACEs yn cael effaith emosiynol ar y gweithwyr proffesiynol sy’n gwneud y gwaith. Wrth i fwy a mwy o sefydliadau gymryd y cam cadarnhaol o gyflogi pobl sydd wedi cael profiad o fod yn ddigartref – ac mae wedi’i brofi bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltu â chleientiaid – mae’r mater yn cael ei ddwysáu ymhellach. Heb fesurau diogelu a goruchwyliaeth glinigol, mae gweithwyr rheng flaen yn ysgwyddo baich emosiynol eu trawmâu eu hunain a rhai eu cleientiaid. Fodd bynnag, mae diffyg yn y llenyddiaeth ynglŷn â’r cam nesaf. Mae’n ymddangos bod trawma dros eraill yn teithio i fyny’r gadwyn reoli, gan drosglwyddo i oruchwylwyr, rheolwyr, cyfarwyddwyr arweinwyr a llunwyr strategaethau. Y gwir gofidus yw bod trawma cymhleth y bobl a gynorthwywn yn amlwg mewn ystafelloedd rheoli. Mae’n cael ei amlygu drwy ddynameg pŵer gwenwynig, arferion comisiynu gwastraffus a diffyg cydlyniant cyffredinol ymysg ‘arbenigwyr’, sy’n aml byth yn cytuno. Yn anffodus, y sawl sy’n cysgu yn y drws sy’n talu’r pris.
Rydym yn wynebu lefelau digartrefedd na welwyd eu tebyg o’r blaen yng Nghymru a bydd angen mesurau na welwyd erioed o’r blaen i fynd i’r afael â’r broblem. Ni all hyn ddigwydd tra bod argyfwng o ran arweinyddiaeth. Nid yw’n golygu bod angen un arwr blaenllaw sy’n achub y dydd. Ond mae’n bryd dod â’r sector at ei gilydd a dangos ymateb wirioneddol gymunedol i ddigartrefedd. Mae angen i bob un ohonom wneud yn well.