Rydym yn cyhoeddi canlyniadau arolwg 20-cwestiwn blynyddol lle mae cleientiaid yn dyfarnu bod y gefnogaeth a gânt yn “Rhagorol”, “Da”, “Iawn” neu “Ddrwg”.
Rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019, cwblhaodd 712 o bobl arolygon bodlonrwydd, gan roi cipolwg gwerthfawr ar sut maen nhw’n teimlo am The Wallich, ei wasanaethau a’i staff.
Rhoddodd ein cleientiaid adborth ar chwe chategori yn ymwneud â’n gwasanaethau: Pethau ymarferol am eich prosiect, Iechyd a Diogelwch yn eich prosiect, Eich cynnwys chi yn eich prosiect, Y staff yn eich prosiect, Cefnogaeth i chi, a Chefnogaeth yn gyffredinol.
Mae The Wallich yn cefnogi pobl sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau ac anghenion cymorth, o gysgu ar y stryd a hostelau i ddatrys anghydfod a gwasanaethau dysgu a datblygu, mewn mwy na 70 prosiect ar draws Cymru – mae i bob prosiect ei bersonoliaeth a’i anghenion ei hun.
Mae creu cyfleoedd i ddefnyddwyr ein gwasanaethau ddweud eu dweud yn dangos iddynt eu bod nhw’n bwysig. I lawer o bobl sydd wedi bod yn ddigartref, mae eu hyder a’u hunanwerth yn gallu cael eu tanseilio – rydyn ni am eu hatgoffa bod eu barn nhw’n ddilys
Dywedodd Jessica Symons, Cydlynydd Cynnwys Pobl ac Ansawdd yn The Wallich:
“Mae lles ein cleientiaid yn flaenoriaeth i The Walllich, ond mae hynny’n gallu bod yn anodd ei fesur felly mae sianelu barn ein pobl i wneud yn siŵr nid yn unig fod eu lles yn cael ei warchod ond hefyd ei wella yn gwneud llawer iawn o synnwyr i ni.
“Dim ond un peth yw casglu eu hadborth. Mae gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi camau ar waith i ddangos bod eu pryderon wedi cael eu clywed hefyd yn bwysig. O arolwg eleni, at ei gilydd mae’n gadarnhaol ond gwyddom mai Iechyd a Diogelwch oedd yr adran a gafodd y sgôr isaf – gyda chyfradd bodlonrwydd o 85% – felly rhaid inni ystyried ble gallwn ni ddatblygu’r maes hwnnw.
“Mae gofyn i’n cleientiaid am eu barn, mewn amgylchedd diogel, hefyd yn gallu helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng ein cleientiaid a’r staff. Dylai mwy o ymddiriedaeth arwain at berthynas fwy cefnogol ac, yn y pen draw, at atebion tymor hir i’r rhai rydyn ni’n eu helpu.”
Mae The Wallich yn falch o gael adborth cadarnhaol gan ein cleientiaid yn gyson, yn enwedig o ran ein staff penderfynol a thosturiol.
“Alla’ i ddim diolch digon i chi. Dwi wedi cael cefnogaeth a chymorth aruthrol ar adegau. Mae’r tîm wedi bod mor gefnogol ac wedi fy helpu i yn fwy na neb arall.”
“Mae’r staff wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd. Maen nhw’n gwrando arnaf a byth yn cynhyrfu.”
“Mae’r staff wedi fy nhrin gyda’r parch a’r urddas mwyaf ac mi fyddaf yn ddiolchgar am byth iddynt a dwi’n diolch iddynt o waelod calon.”
Wedi’ch ysbrydoli ac eisiau ymuno â’n tîm? Ewch i’n tudalen Swyddi i weld y swyddi gwag diweddaraf.