Behind The Label: Sioe theatr ar ddigartrefedd yn dychwelyd

22 Nov 2018

AR ÔL SIOE LWYDDIANNUS DDWY FLYNEDD YN ÔL, MAE BEHIND THE LABEL YN DYCHWELYD. UNWAITH ETO MAE’R SIOE’N CYNNIG PROFIAD THEATRIG ARBENNIG GAN BOBL SYDD wedi PROFI DIGARTREFEDD NEU WEDI’U GWTHIO I’R CYRION GAN GYMDEITHAS.

Mae’r prosiect, a sefydlwyd yn 2016, ac sy’n cael ei ddarparu gan Theatre vs Oppression (TvO) mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a The Wallich, yn grymuso pobl fregus i rannu eu stori mewn ffordd greadigol, bersonol sy’n ysgogi’r meddwl. 

Caiff Behind the Label ei chynhyrchu a’i pherfformio gan grŵp o bobl go iawn, sy’n rhannu eu profiadau bywyd – sy’n cynnwys trawma, caethiwed, digartrefedd neu broblemau iechyd meddwl – ac sydd wedi’u labelu gan gymdeithas.

Bydd y perfformiad gonest hwn yn herio syniadau a rhagdybiaethau aelodau’r gynulleidfa o bobl a phroblemau penodol. Mae’n gofyn i bawb edrych y tu ôl i labeli negyddol fel ‘jynci’ neu ‘droseddol’ a gwrando ar straeon y bobl sy’n mynd law yn llaw â nhw. 

“Rwy’n meddwl fy mod i wedi dweud rhai pethau am y tro cyntaf erioed, ac mae’n faich enfawr oddi ar fy ysgwyddau… rwyf wedi dod o hyd i wahanol ffyrdd o fynegi fy hun .” 

Mae Behind the Label wedi rhoi cyfle i’r cyfranogwyr feithrin eu hyder, trafod eu profiadau, gwneud cyfeillion newydd, a dysgu sgiliau newydd y gallan nhw eu defnyddio yn y dyfodol. I baratoi ar gyfer y sioe, bu’r cyfranogwyr mewn gweithdai creadigol arbennig, o ysgrifennu sgriptiau i ddylunio setiau.

Hefyd, mae cleientiaid wedi bod yn gweithio gyda staff yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i ddysgu sgiliau ymarferol eraill fel hebrwng, sgiliau technegol ar gyfer y llwyfan a marchnata.

Gwyddom fod y perfformwyr yn falch o fod ar lwyfan theatr eiconig yng Nghymru – cyfle nad yw llawer yn ei gael.

“Pobl ydym ni i gyd. Felly dylai hi fod, ac nid y label a roddir i ni.”

Tocynnau ar gyfer Behind The Label 

Ble: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. 

Pryd: dydd Iau 13 a dydd Gwener 14 Rhagfyr 2018 am 8pm. 

Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru am £12 yn unig.

Mwy o wybodaeth am Behind the Label.

Tudalennau cysylltiedig