Ar 1 Ebrill 2020, fe wnaethom ofyn am bum prif beth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i helpu i gadw ein staff a’r bobl a gefnogwn yn ddiogel dros argyfwng y Coronafirws.
Gofynnwyd am brofion blaenoriaeth i’n staff rheng flaen
Rydym yn falch o weld bod y cyfanswm capasiti profion yng Nghymru bellach yn 2,000 y dydd, ac yn ddiolchgar am y cadarnhad yr ystyrir ein staff cymorth rheng flaen i fod yn weithwyr allweddol, fel staff iechyd a gofal cymdeithasol eraill.
Er yn amlwg yn beth doeth bod pobl gyda symptomau o COVID-19 ac aelodau o’u teuluoedd yn cael blaenoriaeth ar gyfer prawf, gobeithio wrth i’r capasiti gynyddu y bydd staff rheng flaen eraill hefyd yn gallu cofrestru am brofion heb orfod aros i symptomau ddatblygu.
Oherwydd bod gweithwyr cymorth yn delio â nifer fawr o bobl wyneb yn wyneb bob dydd, mae ganddynt risg uwch o ddod i gysylltiad â’r coronafirws, ac felly’n haeddu derbyn y sicrwydd a roddir gan ganlyniad prawf a bod yn hyderus eu bod yn iach a diogel i barhau i weithio.
Gofynnwyd am Gyfarpar Diogelu Personol i’n staff rheng flaen
Rydym yn falch o gadarnhau, diolch i haelioni unigolion a busnesau, a hefyd i waith caled ein cydweithwyr yn y sector cymorth tai, bod gennym ar hyn o bryd ddigon o PPE i barhau i redeg ein holl wasanaethau dydd i ddydd.
Mae hyn wedi’i gynorthwyo’n fawr iawn gan y cyngor a gawsom gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 21 Ebrill oedd yn rhoi cyngor, yr oeddem yn awyddus iawn i’w dderbyn, ar y sefyllfaoedd lle nad oes angen PPE a lle mae cadw pellter cymdeithasol yn gam mwy effeithiol i liniaru’r risg o heintio.
Y cwbl a ofynnwn nawr yw bod y cyngor swyddogol yn cael ei ddiweddaru’n gyson os oes unrhyw ddatblygiadau gyda’r dystiolaeth wyddonol ar ddefnyddio PPE.
Gofynnwyd na ddylai ein defnyddwyr gwasanaeth gael eu targedu’n annheg gan orfodaeth
I ddechrau, roeddem yn poeni y gallai anghenion cymhleth llawer o’n defnyddwyr gwasanaeth ei wneud yn anoddach iddynt gadw at y cyfarwyddiadau i aros gartref a pheidio ag ymgynnull neu gyfarfod ffrindiau ar wahân i’r bobl sy’n rhannu’r un aelwyd.
Ers dechrau’r cyfnod dan-glo ym mis Mawrth, rydym yn falch o weld bod heddluoedd Cymru wedi bod yn gefnogol iawn i’n gwaith o gynghori a diogelu pobl ddigartref, yn enwedig rhai a fu’n cysgu ar y stryd.
Wrth gwrs cafwyd ambell i ddigwyddiad lle bu’n rhaid i blismyn ofyn i grwpiau o bobl symud ymlaen, ond ar y cyfan mae gwaith da iawn wedi’i wneud gan yr heddlu ac asiantaethau eraill i ddatrys problemau cymhleth lle cawsant eu hadnabod.
Hyd yma, ychydig iawn o’n defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi cael dirwy o dan bwerau argyfwng y coronafirws.
Gofynnwyd am lety i bawb sy’n cysgu ar y stryd
Rydym yn hynod falch o weld bod gymaint o bobl a fu’n cysgu ar y stryd cyn yr argyfwng wedi cael eu rhoi mewn cartrefi dros dro.
Mae hyn yn tystio i waith caled holl awdurdodau lleol Cymru yn dod o hyd i ystafelloedd gwesty gwag a threfnu iddynt gael eu defnyddio fel llety argyfwng, ac yn cysylltu â thimau allgymorth lleol i ddod o hyd i’w defnyddwyr gwasanaeth a dosbarthu ystafelloedd iddynt.
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb yr arian argyfwng o £10m gan Lywodraeth Cymru ac rydym yn hynod ddiolchgar am hyn.
Mae ein timau Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd wedi cadarnhau, lle byddent fel arfer yn gweld rhwng 40-80 o bobl yn cysgu ar y stryd ar eu siwrne frecwast ddyddiol, eu bod bellach ond yn gweld un neu ddau, neu neb, sy’n awgrymu bod y rhan fwyaf wedi eu lletya ac yn llwyddo i aros dan do. Mae hyn yn llwyddiant digyffelyb.
Gofynnwyd am sicrwydd na fydd pobl yn cael eu rhyddhau o’r carchar i fod yn ddigartref
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos â Gwasanaeth Prawf a Charchardai EM i sicrhau y gellir dod o hyd i lety i bawb sydd i’w rhyddhau o garchardai yng Nghymru, gan gynnwys rhai a ryddhawyd yn gynnar i ysgafnu’r pwysau ar garchardai prysur a allai wynebu epidemig coronafirws.
Heddiw’n fwy nag erioed, mae’n hanfodol na fydd neb yn cael eu rhyddhau o’r carchar heb gartref i fynd iddo, a byddwn yn monitro’r sefyllfa’n ofalus i sicrhau nad yw’n dirywio yn ystod yr argyfwng presennol.
Yn gyntaf, credwn fod gennym gyfle unwaith mewn oes i gael gwared ar gysgu ar y stryd yng Nghymru am byth.
O ystyried bod y rhan fwyaf o unigolion yn ymddangos i fod mewn llety argyfwng wedi’i drefnu gan awdurdodau lleol, mae hyn yn amser perffaith i weithio gyda phob un ohonynt i ddeall eu hamgylchiadau penodol a chreu cynllun datblygu ar eu cyfer i’w symud yn syth i gartref mwy parhaol.
Ni allwn adael i’r cyfle hwn fynd yn ofer, oherwydd gallai weld pobl yn mynd yn syth yn ôl ar y stryd cyn gynted ag y codir y cyfnod dan-glo.
Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i awdurdodau lleol, er mwyn achub ar y cyfle hwn, i gomisiynu cyfres o brosiectau ail-gartrefu di-oed, datblygu perthynas gyda’r bobl sydd mewn llety argyfwng ar hyn o bryd a gweithio i ddod o hyd i gartref parhaol i bob un ohonynt ymhell ar ôl i’r coronafirws ddod i ben.
Mae hwn hefyd yn gyfle rhagorol i gymdeithasau tai a landlordiaid preifat ar draws Cymru, oherwydd gallai olygu incwm rhent wedi’i warantu ar adeg pan fo’r farchnad dai’n swrth iawn.
Yn ail, hoffem weld Llywodraeth Cymru yn parhau i roi mwy o warchodaeth i bobl sy’n rhentu eu cartrefi ar hyn o bryd ond a allai, oherwydd y pandemig a cholli incwm o ganlyniad, wynebu bod yn ddigartref heb gymorth brys gan y llywodraeth a’r sector tai.
Er yn falch o weld moratoriwm ar achosion troi allan gerbron y llysoedd yng Nghymru, rydym yn parhau i fod yn hynod bryderus y gallai tenantiaid sydd ar ei hôl hi gyda thalu’r rhent gael eu troi allan o’u cartrefi unwaith y daw’r cyfnod dan-glo i ben.
Credwn y byddai Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2016 yn rhoi gwarchodaeth ychwanegol sylweddol i denantiaid cyn gynted ag y daw i rym, ond pwyswn ar Lywodraeth Cymru i fonitro’r sefyllfa’n ofalus a chymryd ba bynnag gamau sy’n angenrheidiol i atal mwy o ddigartrefedd unwaith y daw’r pandemig i ben, wrth i denantiaid yng Nghymru wynebu dyfodol eithriadol ansicr.
Mae pobl Cymru wedi aberthu’n aruthrol i ymladd y pandemig byd-eang hwn.
Rydyn ni i gyd wedi gweld hyn, p’un ai wrth i staff barhau i weithio yn rheng flaen y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, neu drwy aros gartref i atal ymlediad yr haint. O’r herwydd, maen nhw’n haeddu gweld Llywodraethau’n gwneud popeth yn eu pŵer i’w helpu i fynd yn ôl at fywyd normal, heb ofni colli eu cartrefi.
Drwy rannu ein camau nesaf.
Drwy ddangos cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a chysylltu â’ch cynrychiolwyr llywodraeth – eich AC (Aelod Cynulliad) a / neu eich AS (Aelod Seneddol).
Gofynnwch iddynt gefnogi’r pethau a ofynnwn amdanynt a helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Dilynwch ein sianeli cymdeithasol
Twitter: @TheWallich
Facebook: The Wallich Wales
Instagram: @homelessinwales
LinkedIn: The Wallich
YouTube: The Wallich
I ofyn cwestiwn neu wneud sylw am y gwasanaethau a ddarparwn ar draws Cymru, e-bostiwch ein tîm Polisi a Materion Cyhoeddus ar communications@thewallich.net