Cwpl yn rhoi tai i Elusen Ddigartrefedd

12 Feb 2025

Mae Chris a Valerie Norris o Abertawe wedi rhoi dau dŷ i The Wallich, elusen flaenllaw ym maes digartrefedd a chysgu allan

Bydd y ddau dŷ 4 ystafell wely’n lleddfu ychydig ar yr argyfwng tai yng Nghymru drwy roi lloches i bobl yn y gymuned.

Darlithwyr oedd Valerie (71) a Chris (77), ond mae’r ddau wedi ymddeol erbyn hyn. Bu iddynt gyfarfod ar wefan chwilio am gariad, a phriododd y ddau yn fuan wedyn. Peirianneg Deunyddiau oedd pwnc Valerie, ac yn fwy diweddar mae hi wedi troi ei llaw at ysgrifennu nofelau. Bardd-athronyddol yw Chris, ac mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi sawl tro.

Bydd y ddau dŷ yn cael eu defnyddio fel rhan o gynllun ABBA (Alternative to Bed and Breakfast Accommodation) The Wallich Abertawe, cynllun sy’n rhoi llety i bobl sydd angen lloches ar frys. Mae’r preswylwyr yn aros yn y llety hwn am gyfnod byr, cyn cael eu symud i le mwy parhaol.

Mae prinder lleoliadau llety dros dro ym mhob rhan o Gymru, ac felly mae ‘Dewis Arall Llety Gwely a Brecwast’ yn gynllun amgen pwysig sy’n ychwanegol i’r hyn a gynigir gan awdurdodau lleol. Yn hanesyddol mae awdurdodau lleol yn rhoi llety gwely a brecwast i bobl sy’n profi digartrefedd tra maen nhw’n disgwyl am gartref parhaol.

Dywedodd Valerie wrth drafod beth oedd eu cymhellion dros roi’r ddau dŷ i’r elusen, “Rydym ni’n gwybod faint o gymorth sydd ei angen ar bobl ddigartref. Ar ôl i ni gael amser i setlo lawr gyda’n gilydd, penderfynon ni edrych ar ein sefyllfa ariannol (roeddem ni wedi gwerthu dau dŷ, un yr un, a phrynu un gyda’n gilydd), dyna pryd y cawsom ni’r syniad o brynu tŷ a’i roi i’r rhai mewn angen. Fe wnaethom ni weld Prif Swyddog Gweithredol The Wallich ar y teledu, ac mae’r gweddill yn hanes.

“Mae’n werth nodi nad ydym ni’n gyfoethog, ond rydym ni’n byw’n gyfforddus. Bu’n rhaid i ni feddwl am nifer o bethau cyn gwneud y penderfyniad hwn, ac un o’r pethau hynny oedd y ffaith nad ydym ni eisiau mynd i deithio – mae’r ddau ohonom ni wedi gwneud digon o hynny yn ystod ein gyrfa – oherwydd hyn, roedd gennym ni’r rhyddid i allu prynu’r ddau dŷ heb orfod rhoi’r gorau i’r pethau rydym ni’n eu mwynhau.

“Efallai fod cael rhoi’r tai ar les i The Wallich yn gyntaf wedi ein helpu, roedd hynny’n golygu bod gennym ni rwyd gymorth i ddisgyn yn ôl arni petai rhywbeth yn mynd o’i le, ond yn y diwedd penderfynom ni nad oedd angen y rhwyd honno arnom ni. Yr ail beth oedd angen i ni ei ystyried oedd ein plant; mae gennym ni bedwar o blant rhyngom ni (a naw o wyrion ac wyresau). Daethom i’r casgliad eu bod nhw am elwa o’n hewyllys mewn ffyrdd eraill, ac felly doedd dim angen i ni boeni am hynny.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd y tai yn darparu lloches ddiogel i’r bobl sydd wirioneddol ei angen, ac yn ysgogi rhagor o bobl sydd â rhywbeth i’w roi i feddwl sut y gallan nhw gefnogi pobl yn eu cymuned.”

Mae gan y cwpl hanes blaenorol o hybu lles cymdeithasol. Mae Chris wedi cefnogi achosion da ar hyd ei oes; mae’n aelod o Gôr Cochion sy’n aml yn canu er mwyn codi arian, ac mae wedi rhoi cartref i geisiwr lloches yn y gorffennol. Mae Chris hefyd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o ddysgu Saesneg i bobl. Mae Valerie yn gwirfoddoli gyda Cruse Beravement Support ers 21 o flynyddoedd, ac ar hyn o bryd mae hi’n gwirfoddoli ar y llinell gymorth.

Dywedodd Mike Bobbett, Cyfarwyddwr gyda The Wallich, “Mae rhoi un tŷ yn rhodd i’r bobl sy’n cael eu cefnogi gan The Wallich yn wych, ond mae rhoi dau dŷ yn syfrdanol. Mae Valerie a Chris yn gwpl arbennig, maen nhw’n poeni am bobl eraill, ac yn enghraifft wych o’r daioni sydd yn y byd. Mae eu haelioni wedi ein rhyfeddu.

Staff and service user cooking in Ty Ireland, Pen-y-bont ar Ogwr

“Mae The Wallich yn edrych ymlaen at droi’r ddau dŷ yn rhwyd ddiogelwch i bobl Abertawe. Mae 11,000 a mwy o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru, ac mae prinder gwirioneddol o gartrefi ar gael i bobl fyw ynddynt yn y tymor hir, sy’n golygu bod mynd i’r afael ag anghenion sylfaenol pobl yn fwy heriol byth.

“Byddwn ni’n dal ati i weithio â’r awdurdod lleol, ac asiantaethau yn Abertawe, heb anghofio’r bobl ddigartref er mwyn sicrhau ein bod ni’n manteisio i’r eithaf ar yr adnodd newydd hwn.

“Mae Valerie a Chris yn enghreifftiau gwych o’r daioni sydd yn y byd, ac rydym ni’n gobeithio y bydd eu cyfraniad yn ysbrydoli eraill i roi beth sydd ganddynt er mwn rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.”