Cyhoeddiad am arweinyddiaeth

15 Jul 2025

Mae Karen Robson, Prif Swyddog Gweithredol The Wallich, wedi penderfynu camu i lawr o’i swydd yn The Wallich am resymau personol.

Dywedodd Oliver Townsend, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr The Wallich:

“Yn ystod ei chyfnod yn gweithio i The Wallich, fe lwyddodd Karen i ddechrau’r broses gychwynnol o roi dull codi arian newydd ar waith. Fe wnaeth hi greu a datblygu perthnasau a chysylltiadau’r sefydliad mewn meysydd newydd a hi oedd yn gyfrifol am arwain y cynlluniau i ddatblygu ein strategaeth newydd.

“Daeth Karen â syniadau newydd, angerdd a brwdfrydedd i waith The Wallich, ac mae hi eisoes wedi llwyddo i wella’r ffordd rydym yn cyfathrebu â phartneriaid a meysydd gwaith newydd. Roedd ei brwdfrydedd dros ei gwaith yn amlwg bob amser, ac roedd ganddi gysylltiad arbennig â’r bobl rydym ni’n eu cefnogi a’r gwaith rydym ni’n ei wneud, roeddwn i’n edmygu hynny’n fawr amdani.

“Rydym yn dymuno’n dda iddi ac yn ddiolchgar iddi am ei holl waith caled a’i hymroddiad i wireddu ein nod, sef rhoi diwedd ar ddigartrefedd.”

Hoffai Karen nodi ei bod yn edmygu holl staff The Wallich a’i bod yn ddiolchgar iddynt am eu hymroddiad, eu hymrwymiad a’u cefnogaeth yn ystod ei chyfnod wrth y llyw. Mae hi’n awyddus hefyd i ddiolch yn fawr i ddefnyddwyr y gwasanaeth ac i aelodau’r Bwrdd Cysgodol am rannu eu profiadau personol nhw er mwyn iddi allu gwella’r gwasanaeth i eraill. Bydd y sgyrsiau hyn yn aros yn ei chof ac yn ei hatgoffa o’i chyfnod gyda’r elusen.

Aeth Townsend yn ei flaen “Bydd y Bwrdd yn mynd ati i ystyried trefniadau arweinyddiaeth dros dro, ond yn y cyfamser, rydym yn hyderus yng ngallu Cyfarwyddwyr The Wallich i arwain yr elusen fel yr arfer gan sicrhau na fydd hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau. Bydd y trefniadau yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo modd.”