Ar 16 Ebrill 2025, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod y diffiniad o ‘ryw’ yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn golygu ‘rhyw biolegol’.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gweithio i gyhoeddi canllawiau statudol wedi’u diweddaru a fydd yn effeithio ar bolisïau yn y gweithle.
Beth mae hyn yn ei olygu yn gyfreithiol?
Mae’r dyfarniad yn golygu bod ‘menyw’ yn ‘fenyw fiolegol’ a bod ‘dyn’ yn ‘ddyn biolegol’ o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae hyn yn golygu y bydd pobl sy’n ystyried eu hunain yn drawsryweddol, hyd yn oed y rheini sydd â Thystysgrif Cydnabod Rhywedd (GRC), yn gorfod cydnabod eu rhyw adeg eu geni; mae menyw draws yn ddyn biolegol, ac mae dyn traws yn fenyw fiolegol.
Mae’n ymddangos bod hyn yn diystyru Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 sy’n caniatáu i bobl drawsryweddol gael cydnabyddiaeth gyfreithiol o’r rhywedd maen nhw wedi’i gaffael.
Mae arbenigwyr cyfreithiol yn archwilio goblygiadau’r dyfarniad. Fodd bynnag, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn awgrymu y gallai’r canllawiau ar fannau ar gyfer pobl o’r un rhyw, fel ystafelloedd newid a thoiledau, fod yn draws-gyfyngol yn hytrach na thraws-gynhwysol.
Fodd bynnag, o dan y gyfraith bresennol, nid yw hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei weithredu eto.
Ers blynyddoedd lawer, mae’r Wallich wedi cyflogi pobl ac wedi cefnogi defnyddwyr gwasanaeth sy’n ystyried eu hunain yn draws neu’n anneuaidd ac aelodau eraill o’r gymuned LHDTCRhA+.
Mae’n nifer fach, ond cyson, o bobl. Er eu bod yn lleiafrif, mae gan bawb yng Nghymuned The Wallich yr hawl i fyw heb unrhyw wahaniaethu ac i gael eu parchu am bwy ydyn nhw ac wrth fyw bywyd yn ddidwyll heb orfod ymddiheuro am bwy ydyn nhw. Rydym yn deall y bydd gan bobl gredoau a safbwyntiau amrywiol ynghylch dyfarniad y llys. Yn unol â’n gwerth ni o gymuned, byddwn yn parhau i ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol i bawb lle mae pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch.
Beth nesaf?
Byddwn yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw newidiadau i bolisïau’r gweithle, yn ogystal â chymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ynghylch y canllawiau statudol diweddaraf.
Rydym yn aelod-fudiad o Tai Pawb, a byddwn yn parhau i ddilyn eu datganiadau a’u canllawiau wrth i oblygiadau’r dyfarniad ddatblygu.
Mae ein gwerthoedd wrth galon popeth a wnawn yn The Wallich. Byddwn yn dangos tosturi ac yn cofleidio’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Byddwn yn dangos dewrder wrth godi llais yn erbyn gwahaniaethu.