I ymateb i’r cynnydd mewn digartrefedd, gosodwyd y castiau o gwmpas Caerdydd dros bedwar diwrnod i fesur pa mor ymwybodol oedd y cyhoedd o bobl ar y stryd.
Ffilmiwyd ymateb pobl, gyda rhai’n bryderus ac yn poeni am y bobl yn y bagiau, eraill yn sarhaus ac yn ymosod ar y cerfluniau, ond gan amlaf yr ymateb oedd difaterwch llwyr.
Meddai un aelod pryderus o’r cyhoedd a welodd gerflun y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd,
“Roeddwn yn poeni a bod yn onest. Nid yw’n rhywbeth a welwch bob dydd.
Meddyliais y dylen ni ryportio’r peth efallai. Meddyliais fod rhywun yn ceisio lladd ei hun; oedd yn od, ond nid oeddwn am fynd gartre’ a chael gwybod wedyn fod rhywbeth wedi digwydd.
Meddyliais am fynd at swyddog diogelwch a dweud ‘I chi gael gwybod, mae yna ddyn fan acw gyda bag du dros ei ben.'”
I greu’r castiau, roedd pedwar o gyfranogwyr yn Behind The Label, sioe theatr WMC a TVO wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan bobl oedd unwaith yn ddigartref, wedi eistedd i’r artist, Rushton.
Cafodd eu profiadau o eistedd mewn cast-resin dŵr Jesmonite AC100 am hanner awr, gan atgyfodi hen deimladau o fod yn unig ac ynysig, hefyd eu cofnodi.
Os na chawsoch gyfle i weld y cerfluniau o gwmpas Caerdydd, bydd yr arddangosfa, o’r enw Chrysalis, ynghyd â chyfres o fideos am y cerfluniau, y gwrthrychau eu hunain ac ymateb y cyhoedd iddynt, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Mercher 27 Tachwedd.
Eglurodd Maxwell Rushton, a greodd Chrysalis, sut y meddyliodd am y syniad,
“Wrth gerdded allan o siop a baglu dros fag bin, mi wnes i droi ac ymddiheuro oherwydd roeddwn yn meddwl mai person digartref oedd o.”
Meddai Markus, sy’n rhan o’r perfformiad Behind the Label ac yn wrthrych un o’r cerfluniau,
“Wrth sefyll yn ôl a gweld y cerflun, mae’n drawiadol oherwydd fe wyddoch mai chi yw e.
Mae’n gwneud i chi deimlo’n fregus a gweld ymateb pobl iddo hefyd, gallwch weld ei fod yn bwerus.
Chi’n cael eich gorfodi i wynebu eich hun, yr un fath ag yn Behind the Label; chi’n cael eich rhoi mewn sefyllfa o ddinoethi eich hun – yn amrwd, gan rannu eich stori.
Rwy’n edrych ymlaen at weld a chlywed ymateb pobl oherwydd nid wyf yn credu bod hyn erioed wedi’i wneud o’r blaen.”
Meddai Kev, a fu hefyd yn eistedd i Rushton,
“Daeth â’r holl deimlad o fod yn unig pan oeddwn ar y stryd yn ôl i mi.”
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae cysgu ar y stryd yng Nghymru wedi cynyddu o 45% ers 2015.
Mae’r Wallich wedi cyhoeddi ei fod yn argyfwng cenedlaethol a gall unrhyw un sy’n ymweld â’r WMC pan fydd Chrysalis neu Behind The Label yno siarad â thywysydd i wybod mwy am beth all y cyhoedd ei wneud i helpu pobl sy’n cysgu ar y stryd.