Mae The Wallich yn croesawu’r ychwanegiad dros dro at y gyfraith, a basiwyd gan y Senedd, yr wythnos diwethaf i ychwanegu pobl sy’n cysgu allan at y rhestr o’r rheini sydd ag ‘angen blaenoriaethol’.
Fodd bynnag, er ein bod yn hynod o obeithiol bod y diwygiad dros dro hwn yn arwydd o newid radical pellach i ddeddfwriaeth digartrefedd Cymru yn y dyfodol agos, yn y bôn nid ydym yn cefnogi system ‘angen blaenoriaethol’ o benderfynu pwy sy’n gymwys neu’n anghymwys i gael cymorth.
Cytunodd Aelodau’r Senedd yn unfrydol ar y Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadol) (Cymru) 2022, sy’n golygu, o 24 Hydref ymlaen, y bydd rhywun sy’n ddigartref ar y stryd, a rhywun y mae’n rhesymol disgwyl i’r person sy’n ddigartref ar y stryd fyw gydag ef, yn cael ei ystyried fel rhywun sydd ag angen blaenoriaethol am lety.
Mae’r ychwanegiad newydd hwn yn dilysu ac yn parhau â’r dull gweithredu cyfreithiol a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a gynhaliwyd gan awdurdodau lleol a phartneriaid elusennol yn ystod y pandemig, i sicrhau bod pobl sy’n cysgu allan yn cael y cymorth y cawsant eu heithrio ohono’n aml cyn y pandemig.
Cafodd y dull ‘neb yn cael ei adael allan’ ei roi ar waith bron dros nos ac roedd yn newid hanfodol i liniaru’r argyfwng iechyd y cyhoedd sy’n cael ei greu gan y coronafeirws.
Dywedodd Julie James AS, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd wrth gyflwyno’r newid deddfwriaethol:
“Er bod y pandemig wedi cilio am y tro, nid yw’r angen am gymorth a thai i unigolion sy’n profi digartrefedd wedi cilio. Cyn ein diwygiadau eang arfaethedig i ddeddfwriaeth digartrefedd, rwy’n gobeithio y bydd pob Aelod yn croesawu ac yn cefnogi’r diwygiad deddfwriaethol interim hwn, ac yn ei gydnabod fel cam hanfodol i ddileu digartrefedd yng Nghymru.”
Cyn y pandemig, cawsoch eich ystyried fel un ag ‘angen blaenoriaethol’ os oeddech yn bodloni’r meini prawf canlynol:
Nid oedd cysgu allan, heblaw eich bod yn disgyn i unrhyw un o’r categorïau ychwanegol uchod, yn cael ei ystyried yn rheswm i fod ag angen blaenoriaethol.
Yn 2018/19, roedd bron i 1,700 o aelwydydd yn benderfynol o fod yn ddigartref ond heb fod mewn angen blaenoriaethol, ac felly nid oedd ganddynt unrhyw hawl am lety a dim help ar wahân i wybodaeth a chyngor cyffredinol.
Yn ystod y pandemig, roedd y polisi ‘neb yn cael ei adael allan’ yn golygu bod Cymru i bob pwrpas wedi rhoi’r gorau i brofion angen blaenoriaethol o blaid dull iechyd y cyhoedd, a bod pawb sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn haeddu cefnogaeth.
Mae Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar draws y sector wedi mynegi cefnogaeth i roi diwedd ar angen blaenoriaethol yng Nghymru yn ei gyfanrwydd, ond mae gwahanol safbwyntiau wedi bod ynghylch y ffordd orau o gyflawni hyn: a ddylid ychwanegu categorïau newydd yn raddol nes bod blaenoriaeth yn cael ei hehangu’n effeithiol i gynnwys pob achos o digartrefedd, neu ddilyn dull mwy eithafol, gan ddileu’r prawf angen blaenoriaethol yn gyfan gwbl.
Er ein bod yn cydymdeimlo â’r dull graddol sydd wedi cael ei ddewis, rydyn ni’n teimlo, ar y cyfan, y byddai’r dull mwy eithafol wedi bod yn well, o gofio mai dyma sut y mae gwasanaethau wedi bod yn gweithredu dros y ddwy flynedd diwethaf.
Mae’n ymddangos yn ddisynnwyr ailgyflwyno angen blaenoriaethol, gyda gwelliannau, ac yna ei ddileu eto yn y dyfodol agos.
Dywedodd Julie James AS bod y newid deddfwriaethol dros dro yn:
“Ateb dros dro i system ddiffygiol.”
Rydyn ni’n poeni bod ailgyflwyno angen blaenoriaethol yn golygu y gallai’r rheini sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd fod mewn perygl o orfod gadael os nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth mwyach. Rhaid i ni beidio â gweld unigolion yn gorfod cystadlu â’i gilydd ynghylch pwy sy’n cael eu hystyried yn ‘fwy haeddiannol’ o gymorth.
Rydyn ni hefyd yn dal i bryderu y gallai gwasanaethau, dan bwysau cynyddol, ddod yn rhy ragnodol, er enghraifft gan fynnu prawf bod unigolyn wedi cysgu allan am nifer penodol o nosweithiau er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth.
Rydyn ni wedi nodi achosion o wasanaethau lleol sy’n gobeithio cefnogi dim ond pobl sy’n cysgu allan sydd wedi’u dilysu, ac sydd mewn perygl o anwybyddu’r broblem ehangach; sef gall llawer o unigolion fyw ar y stryd er eu bod yn cael cynnig lle i gysgu yn y nos, ond am amryw o resymau efallai nad ydyn nhw’n fodlon aros yno. Gall llety dros dro fod yn amgylchedd anhrefnus y byddai’n well gan rai cleientiaid ei osgoi.
Rydyn ni’n parhau i gredu’n gryf bod unrhyw un sy’n profi unrhyw fath o ddigartrefedd yn haeddu cefnogaeth ac rydyn ni’n gobeithio bod diwygio eang ar y gorwel i wireddu hyn yng Nghymru.