Dogs Trust yn ehangu eu cenhadaeth i gefnogi gwasanaethau digartref ar hyd a lled Cymru dros dymor y Nadolig

24 Dec 2024

 

dog sitting with homeless owner

Y Rhagfyr hwn, fel rhan o’u rhaglen Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd, bydd y Dogs Trust yn dosbarthu pecynnau o anrhegion i berchnogion cŵn sy’n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd yng Nghymru.

Bob blwyddyn, mae’r Dogs Trust yn dod â llawenydd yr ŵyl i gŵn perchnogion sydd yn profi digartrefedd drwy ddosbarthu ‘Pecynnau Nadolig’ wedi eu llenwi â choleri, tenynnau, cotiau, bwyd, a pheli.  I ymateb i’r adroddiadau bod digartrefedd ar gynnydd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig mae’r Dogs Trust wedi ehangu eu cenhadaeth i gefnogi drwy ddosbarthu mwy o becynnau nag erioed o’r blaen! Byddan nhw’n dosbarthu 30% yn fwy nag yn 2023.

Mae’r rhaglen Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd yn cefnogi pobl sy’n profi digartrefedd ers dros 30 mlynedd.  Yn ogystal â dosbarthu pecynnau Nadolig, mae’r gwasanaeth yn cynnig triniaethau milfeddygol rhad ac am ddim i gŵn perchnogion sydd yn profi digartrefedd, ac maent yn annog a chynorthwyo gwasanaethau digartrefedd i fod yn fwy cyfeillgar tuag at anifeiliaid.

young boy with his dog on street

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd wedi ariannu dros 1600 o driniaethau milfeddygol i gŵn perchnogion sydd yn profi digartrefedd, neu sydd mewn perygl o hynny.

Mae’r pecynnau yn cael eu dosbarthu drwy rwydwaith o 270 a mwy o wasanaethau digartrefedd ar hyd a lled y wlad sy’n rhoi cefnogaeth i bobl sy’n profi digartrefedd y Nadolig hwn.  Un o’r gwasanaethau hyn yw The Wallich, ac maen nhw’n gweithio ym mhob rhan o Gymru.

Dywedodd Jane Reynolds, Gweithiwr Cymorth gyda The Wallich:

“Mae’r gwasanaeth pecynnau Nadolig yn enghraifft arbennig o’r effaith fawr y gall gweithred fechan garedig ei chael.

“Bydd yr anrhegion gan y Dogs Trust yn rhoi gwen fawr ar wynebau ein cleientiaid, achos mae eu cŵn yn golygu’r byd iddynt.  Mae’n ffordd dda o ddangos ein bod ni’n poeni amdanynt ac eisiau eu helpu nhw i ddelio â’r heriau sydd yn eu hwynebu o ganlyniad i ddigartrefedd gydag urddas a gobaith.”

Dywedodd James Hickman, Pennaeth Prosiectau Allgymorth y Dogs Trust:

“Mae pawb yn gwybod bod y berthynas rhwng ci a’i berchennog yn un gryf, ond mae’r berthynas honno yn bwysicach byth i bobl sy’n profi digartrefedd.

“O ganlyniad i’r argyfwng tai, a chostau byw cynyddol, mae mwy o alw nag erioed am gefnogaeth.

“Rydym ni yn y Dogs Trust wedi ymroi i roi cefnogaeth i bobl sy’n profi digartrefedd, a diolch i haelioni ein cefnogwyr, byddwn ni’n gallu rhannu mwy o hwyl yr ŵyl eleni, gan helpu dros 2600 o gŵn i ddathlu’r Nadolig gyda’u ffrind gorau.”

Oherwydd bod yr elusen wedi gweld cynnydd yn y galw am gymorth yn 2024, mae’r Dogs Trust yn galw ar y genedl i uno er mwyn cefnogi’r rhaglen Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd. Bydd unrhyw rodd yn sicrhau bod mwy o gŵn a pherchnogion yn cael gafael ar eitemau hanfodol y Nadolig hwn. Mae pob rhodd yn cyfrannu tuag at ddod â hapusrwydd a chynhesrwydd i’r bobl sydd ei angen fwyaf dros gyfnod y Nadolig.

I gefnogi rhaglen Gyda’n Gilydd Drwy Ddigartrefedd y Dogs Trust, ac i helpu’r cŵn a’r perchnogion sy’n profi digartrefedd, ewch i’r wefan: www.dogstrust.org.uk/how-we-help/hope-project/donate.