Gosod loceri newydd i bobl ddigartref yn Aberystwyth

14 Mar 2019

Mae loceri newydd sbon wedi cael eu gosod i bobl ddigartref yn Aberystwyth mewn Swyddfa Atebion sy’n cael ei rheoli gan y Wallich, prif elusen ddigartrefedd Cymru.

Mae gorfod cario eiddo gwerthfawr o gwmpas drwy’r dydd yn gallu bod yn flinedig ac yn beryglus i bobl ddigartref. Bydd gosod y loceri newydd, helaeth a di-dâl yn Aberystwyth yn golygu y bydd pobl sy’n cysgu ar y stryd yn gwybod bod eu heiddo’n ddiogel, a’u bod yn gallu canolbwyntio ar gael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Prynwyd y chwe locer porffor diogel gydag arian gan Gyngor Sir Ceredigion i gynyddu’r ddarpariaeth i bobl sy’n cysgu ar y stryd yn yr ardal.

Dywedodd Anthony Vaughan, Rheolwr Prosiectau Ceredigion yn y Wallich:

“Pan ofynnodd tîm digartrefedd yr awdurdod lleol i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu unrhyw gymorth ychwanegol a oedd ei angen i helpu pobl sy’n cysgu ar y stryd, ein syniad cyntaf un oedd loceri storio. Mae nifer o bobl rydyn ni wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd wedi dymuno cael y loceri hyn.

“Rhaid i rywun sy’n cysgu ar y stryd gadw eu holl eiddo gyda nhw, ac fe allan nhw boeni amdanyn nhw’n cael eu dwyn pan fyddan nhw’n cysgu. Mae cludo eiddo o gwmpas yn rhwystr yn ystod y dydd hefyd, os oes rhaid i unigolyn fynd i lawer o wahanol apwyntiadau, mynd i gael bwyd poeth neu ddod o hyd i rywle cynnes.

“Rhywle diogel a sych i gadw eiddo, sydd ar gael 24 awr y dydd – gall hynny gael effaith gadarnhaol iawn ar rywun sy’n cysgu ar y stryd.”

Mynegodd Jack, 56, ei hapusrwydd ynghylch gosod y loceri newydd:

“Rwyf wedi bod yn ddigartref yn lled-barhaol ers Mai 2008, ac un o’r problemau mwyaf yn fy mhrofiad i yw gallu cael dillad, a dillad gwely, sych a glan. Yn y gorffennol rwyf wedi defnyddio’r loceri 20c yng Nghanolfan Hamdden Aberystwyth ac mewn ardaloedd eraill, ond dim ond yn ystod eu horiau agor byr maen nhw ar gael, felly dydyn nhw ddim yn ymarferol iawn i fi.

“Mae’r loceri Wallich hyn ar gael yn rhwydd ac yn ddigon mawr i fy holl stwff, felly rwy’n gallu gwisgo’r hyn rwyf ei angen am ddiwrnod neu ddau gan wybod bod gen i ddillad glan a sych beth bynnag sy’n digwydd. Dros y gaeaf hwn mae’r loceri wedi gwneud y gwahaniaeth rhwng ‘dim ond ymdopi’ a theimlo’n fodlon bod gen i bopeth rwyf ei angen.”

Mae modd i unrhyw un sydd angen defnyddio’r loceri wneud hynny drwy gysylltu â Gwasanaeth Atebion Ceredigion y Wallich ar 01970 611832 / 07967 595324, aberstaff@thewallich.net neu drwy alw heibio’r swyddfa ar 9 Chalybeate St, Aberystwyth.

Tudalennau cysylltiedig