
Mae The Wallich wedi ymuno â 40 o sefydliadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig drwy gyd-lofnodi llythyr agored i weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig cyn i’r gyllideb gael ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd 2025.
Gyda’n gilydd, rydym ni’n galw ar y Prif Weinidog, Keir Starmer, a Changhellor y Trysorlys, Rachel Reeves, i godi’r Lwfans Tai Lleol er mwyn helpu pobl sy’n cael budd-daliadau i beidio â bod yn ddigartref ac i gael gafael ar gartrefi parhaol.
Ymhlith y sefydliadau eraill sydd wedi llofnodi’r llythyr mae’r Sefydliad Tai Siartredig, Crisis, Shelter Cymru, Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Cofrestredig (NRLA), Sefydliad Bevan, St Mungo’s a llawer mwy.
Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei bod yn amcangyfrif bod tua 82,500 o rentwyr yn dibynnu ar y Lwfans Tai Lleol i dalu rhent.
Mae elusen The Wallich yn rhoi cymorth i bobl yng Nghymru ac yn gweld mwy a mwy o bobl yn troi atom ni o ganlyniad i’r cynnydd yng nghostau rhent.
Yn 2023, cyhoeddodd Sefydliad Bevan mai dim ond 32 o gartrefi oedd ar gael ar gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol yng Nghymru; mae hyn yn cyfateb i 1.2% o’r farchnad.
Doedd gan 16 awdurdod lleol yr un eiddo ar gael ar gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol. Ers hynny, mae prisiau rhent yng Nghymru wedi codi eto.
Mae’r Lwfans Tai Lleol wedi’i ddylunio i dalu costau rhentu preifat. Mae’r lwfans wedi’i gapio ar bris sy’n adlewyrchu cost cyfartalog rhent ym mhob ardal leol.
Yn wreiddiol, roedd y cap wedi ei osod ar 50fed canradd y farchnad rhent – oedd yn golygu bod yr hanner rhataf o holl eiddo’r farchnad yn fforddiadwy – ond cafodd y cap ei ostwng i’r 30ain canradd ym mis Ebrill 2012. Ers hynny, mae’r cap fwy neu lai wedi’i rhewi mewn termau real, gyda chynnydd achlysurol.
Yn y cyfamser, mae costau rhentu preifat wedi codi’n aruthrol, ac yn rhy ddrud i’r mwyafrif erbyn hyn, a phrin iawn yw’r tai fforddiadwy sydd ar gael ar gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach byth i bobl symud ymlaen o lety dros dro a thorri’n rhydd o ddigartrefedd.
Rhaid dadrewi cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol er mwyn lliniaru effeithiau tlodi ar deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd, atal digartrefedd a lleihau’r straen ariannol ar gynghorau lleol sy’n darparu gwasanaethau argyfwng i bobl ddigartref.
Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud y canlynol:
Gan ymrwymo i gadw at y lefel hon drwy gydol cyfnod y Senedd hon a chynyddu’r cap ar fudd-daliadau yn unol â hynny.
Mae’n gwbl annheg bod tenantiaid sy’n dibynnu ar y Lwfans Tai Lleol yn gorfod wynebu ansicrwydd bob blwyddyn wrth ystyried a fyddent yn gallu fforddio cael to uwch eu pen. Byddai hyn yn cyfrannu’n helaeth at atal digartrefedd a helpu pobl i gadw eu tenantiaethau.
Mae’n hanfodol bod llunwyr polisïau yn deall buddion ehangach creu system gymorth fwy digonol.
“Mae’r straen o geisio ymdopi â’r argyfwng costau byw yn dal i effeithio ar y bobl rydym ni’n eu cefnogi, ac mae hynny’n rhan o’r rheswm bod y bobl sy’n byw mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael trafferth symud yn eu blaen.
Ni ddylai cael to parhaol uwch eich pen fod yn rhywbeth breintiedig, dylai fod yn hawl sylfaenol. Dylai digartrefedd fod yn rhywbeth prin, sy’n digwydd am gyfnod byr ac ni ddylai ddigwydd mwy nag unwaith. Mae cyfraddau’r lwfans tai lleol ar hyn o bryd yn gwneud hynny’n anodd iawn.
Bydd The Wallich yn parhau i ymgyrchu ar y mater hwn, gan sefyll ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn y sector nes y bydd pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar dŷ diogel a fforddiadwy.”