O strydoedd Abertawe i safle adeiladu: Taith un dyn i wella a dysgu sgiliau newydd

22 Aug 2025

Mae pâr o Abertawe a roddodd ddau dŷ i elusen digartrefedd The Wallich, yn teimlo’n dda am yr eildro a hynny oherwydd Cii Construction, sef is-gwmni hyfforddi i’r cwmni buddiant cymunedol The Community Impact Initiative.

Mae’r prosiect adnewyddu sy’n werth tua £10,000 wedi cynnig lleoliadau i bobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd i ennill sgiliau galwedigaethol newydd.

Ar ôl gweld haelioni Valerie (71) a Chris (77), darlithwyr sydd wedi ymddeol erbyn hyn, mae Cii Construction a The Wallich wedi ffurfio partneriaeth i wneud gwaith saer, gwaith plastro, addurno a mwy yn un o’r tai.

Mae Cii Construction yn cynnig hyfforddiant a phrofiad go iawn o weithio ar safle i bobl sy’n awyddus i gael swydd yn y byd adeiladu drwy ei gynllun lleoliad.

Ond, mae pobl fel Dean (44) yn ychwanegu at ysbrydoliaeth y stori hon.

Mae Dean, sy’n gweithio ar un o dai’r darlithwyr, wedi byw gyda gwasanaethau The Wallich ers nifer o flynyddoedd ar ôl iddo brofi digartrefedd ar y stryd, mynd i’r carchar, a thaith i wella. 

Rhoddodd Cii Construction groeso i Dean ar leoliad ac mae wedi bod yn cefnogi’r gwaith o adnewyddu’r tŷ.

textimgblock-img

Yn dilyn cyfnod anodd yn ei fywyd, roedd Dean yn awyddus i ddechrau gweithio fel adeiladwr eto.

Dywedodd Dean,

“Roeddwn i’n arfer gwneud gwaith to, ond ar ôl popeth sydd wedi digwydd, rwyf wedi bod yn chwilio am swydd yn y byd adeiladu a gweld pa gyfleoedd sy’n codi.

Mae’r profiad hwn wedi bod yn wych er mwyn dod yn ôl i drefn a magu hyder eto.”

Gyda phrofiad blaenorol o wneud gwaith to, daeth Dean i arfer yn sydyn â’r gwaith a dod yn rhan gwerthfawr o’r tîm.

Dywedodd Rajesh Joshi, Tiwtor Cii Construction, “Ers y diwrnod cyntaf, mae Dean wedi gweithio’n galed, mae wedi cyflawni nifer o dasgau megis altro waliau amherffaith a thacluso’r ardd flaen — does dim byd yn ormod o waith iddo.

“Mae agwedd gadarnhaol Dean a’i barodrwydd i ddysgu wedi creu argraff dda ar ein tîm ar y safle. Yn ystod ei amser ar y lleoliad, mae wedi magu hyder, dysgu sgiliau newydd, ac mae ganddo bellach syniad gwell o beth hoffai ei wneud nesaf.

“Mae lleoliadau fel un Dean yn dangos sut mae partneriaethau rhwng sefydliadau yn gallu creu cyfleoedd ystyrlon, i gefnogi’r gwaith rydym ni’n ei wneud yn ogystal â helpu pobl i ddatblygu yn y diwydiant.”

Bydd y ddau dŷ a roddwyd gan y darlithwyr yn cael eu defnyddio fel rhan o gynllun ABBA (Alternative to Bed and Breakfast Accommodation) The Wallich Abertawe, cynllun sy’n rhoi llety i bobl sydd angen lloches ar frys.

Mae’r preswylwyr yn aros yn y llety hwn am gyfnod byr, cyn cael eu symud i le mwy parhaol.

Mae prinder lleoliadau llety dros dro ym mhob rhan o Gymru, ac felly mae ABBA yn ddewis arall pwysig yn ychwanegol i’r hyn a gynigir gan awdurdodau lleol.

Yn hanesyddol mae awdurdodau lleol yn rhoi llety gwely a brecwast i bobl sy’n profi digartrefedd tra maen nhw’n disgwyl am gartref parhaol.

Dywedodd Valerie wrth drafod beth oedd eu cymhellion dros roi’r ddau dŷ i’r elusen, “Rydym ni’n gwybod faint o gymorth sydd ei angen ar bobl ddigartref. Ar ôl i ni gael amser i setlo i lawr gyda’n gilydd, penderfynon ni edrych ar ein sefyllfa ariannol (roeddem ni wedi gwerthu dau dŷ, un yr un, a phrynu un gyda’n gilydd), dyna pryd y cawsom ni’r syniad o brynu tŷ a’i roi i’r rhai mewn angen. Fe wnaethom ni weld Prif Swyddog Gweithredol The Wallich ar y teledu, ac mae’r gweddill yn hanes.

“Mae hi’n amlwg eu bod yn symud ymlaen yn gyflym gyda’r cynlluniau a bydd y tai yn cael eu defnyddio i’r perwyl gorau. Mae hi’n wych bod y Community Impact Initiative am wneud ychydig o’r gwaith adnewyddu, a thrwy hynny’n dyblu’r effaith buddiol.”

Dywedodd Mike Bobbett, Cyfarwyddwr Arloesi Busnes yn The Wallich,

“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft berffaith o ymateb cymunedol i ddigartrefedd. Diolch i haelioni Val a Chris am roi’r ddau dŷ, diolch am gael defnyddio’r broses adnewyddu fel cyfle ar gyfer symudedd cymdeithasol a defnyddio’r tai i fynd i’r afael ag argyfwng tai yng Nghymru. 

“Rydym ni mor falch bod y bartneriaeth newydd hon gyda Cii wedi helpu’r bobl rydym ni’n eu cefnogi i ddefnyddio eu sgiliau eto. Mae Dean yn ysbrydoliaeth ac mae wedi bod yn gweithio mor galed gyda ni er mwyn symud ymlaen at ei bennod nesaf. Dyna yw holl bwrpas hyn.”