Bydd gêm agoriadol Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn cael ei chwarae ddydd Gwener 20 Medi wrth i wledydd ar draws y byd ddod at ei gilydd i gystadlu am y gwpan.
P’un a ydych chi’n dilyn rygbi neu’n chwarae am hwyl, mae swîp yn ffordd wych o gymryd rhan yn hwyl Cwpan Rygbi’r Byd 2019 gyda’ch ffrindiau neu yn y gweithle.
Lawrlwythwch swîp elusennol Cwpan Rygbi’r Byd 2019 Y Wallich
*Awgrymir bod pawb yn cyfrannu £5, a bod yr enillydd yn cael hanner yr arian sy’n cael ei gasglu, a bod yr hanner arall yn cael ei roi i’r Wallich
Gallwch gael dwywaith cymaint o hwyl a chasglu mwy o arian drwy ofyn i’ch ffrindiau a’ch teulu ddyfalu pwy fydd yn ennill Seren y Gêm neu ddyfalu pwy fydd y cyntaf/yr olaf i sgorio ym mhob gêm.
Lawrlwythwch swîp Seren y Gêm neu’r Cyntaf/Olaf i Sgorio mewn Gêm Cwpan Rygbi’r Byd 2019
Bydd yr arian sy’n cael ei gasglu ar gyfer y Wallich yn helpu pobl ddigartref a phobl sydd mewn sefyllfa dai fregus yn un o’r gwledydd sy’n cystadlu yng Nghwpan y Byd, sef Cymru.
Mae’r Wallich yn credu bod chwaraeon yn gallu gwneud pobl deimlo eu bod nhw’n rhan o gymuned – rhywbeth y mae llawer o ddefnyddwyr ein gwasanaeth yn dyheu amdano ar ôl iddyn nhw gael profiadau ynysig o fod yn ddigartref.
Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cefnogi ymdrechion y tîm rydych chi’n ei ddewis, ni waeth pwy ydyn nhw, gan wybod eich bod chi hefyd yn cefnogi gwaith i helpu pobl sy’n gorfod wynebu cysgu ar y stryd.
Gallwch anfon yr arian rydych yn ei gasglu atom ni ar ein Tudalen Gyfrannu
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â threfnu swîp yn gyfreithlon, darllenwch gyngor y Comisiwn Hapchwarae ar drefnu loterïau bach.