Y Wallich oedd y sefydliad cyntaf i ddarparu gwasanaeth Tai yn Gyntaf yng Nghymru.
Drwy ddysgu gwersi a datblygu system sy’n cynorthwyo’r bobl a gefnogir gennym, rydyn ni wedi bod yn cynnig Tai yn Gyntaf yn llwyddiannus ar Ynys Môn ers 2013.
Yn sefydliadol, rydyn ni’n awyddus i weld mwy byth o bobl sydd wedi wynebu’r bygythiad o ddigartrefedd yn byw bywydau iachach, hapusach a mwy ystyrlon ledled Cymru. Credwn yn gryf y gallwn eu helpu i gyflawni hyn drwy fodel Tai yn Gyntaf.
I gefnogi’r achos dros fuddsoddi yn y fenter, rydyn ni wedi llunio adroddiad ‘Adolygiad 2018’ Tai yn Gyntaf i ddarparu gwybodaeth allweddol sy’n dangos pa mor effeithiol mae’r gwasanaeth wedi bod hyd yn hyn.
Darllenwch yr adroddiad ar Adolygiad 2018 yn llawn yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Tai yn Gyntaf Ynys Môn
Pan ddechreuodd ein prosiect Tai yn Gyntaf ar Ynys Môn yn 2013, cawsom ein dewis i ddarparu prosiect peilot 12 mis yn seiliedig ar yr angen i gefnogi 25 person, a oedd yn cysgu ar y stryd yn rheolaidd a/neu’n wynebu digartrefedd mynych ar yr ynys.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae 74% o’r rheini rydyn ni wedi’u cynorthwyo wedi llwyddo i gael llety ac wedi cadw’r llety hwnnw.
Mae Tai yn Gyntaf o’r farn y dylai person sy’n byw ar y stryd ar hyn o bryd gael cynnig tenantiaeth annibynnol yn gyntaf heb ragofynion o ran mynediad ac y dylai gael cymorth dwys a phendant, yn hytrach na disgwyl iddo ddilyn nifer o gamau i gyrraedd annibyniaeth.
Mae ein dull o weithredu wedi’i lywio gan drawma ac mae’n dilyn model cymorth therapiwtig. Ategir y dull hwn gan yr holl ymyriadau creadigol a ddarperir gan ein hadran cyfranogiad a dilyniant penodol, e.e. dosbarthiadau therapi celf, gwirfoddoli seiliedig ar dreftadaeth, cymwysterau ymarferol a gweithgareddau awyr agored, i enwi dim ond rhai.
Dywedodd Rebecca Evans AC, y cyn Weinidog Tai ac Adfywio am ein prosiect:
Rydw i’n awyddus i weld pa wersi y gallwn ni eu dysgu oddi wrth y tîm ysbrydoledig hwn, a beth gallwn ni ei rannu gyda phrosiectau peilot eraill wrth i ni weithio gyda chynghorau i rannu arfer gorau a datblygu dulliau Tai yn Gyntaf ledled Cymru.
Rhagor o wybodaeth am brosiect Tai yn Gyntaf Y Wallich