Nodi blwyddyn o gefnogaeth digartrefedd Tai yn Gyntaf yng Ngwynedd

19 Dec 2025

Mae The Wallich yn nodi blwyddyn gyntaf ei bartneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i ddarparu’r gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn y sir, gan helpu pobl sy’n profi digartrefedd i gael mynediad at gartrefi sefydlog a chefnogaeth

Tîm o 5 menyw yn olynol - Tai yn Gyntaf

Cyflwynodd bron i 1,000 o bobl yn ddigartref yng Ngwynedd yn 2024-25, gyda llawer ohonynt yn cyflwyno gydag anghenion cymhleth, megis problemau iechyd meddwl, defnydd sylweddau, a hanes o droseddu.

Yr egwyddor y tu ôl i wasanaeth Tai yn Gyntaf yw bod pobl sy’n profi digartrefedd gydag anghenion tai a chefnogaeth gronig yn cael cynnig cartref sefydlog yn gyntaf heb ragofynion, yn hytrach na llety dros dro. Unwaith y bydd ganddynt le diogel a hirdymor i fyw, gall swyddogion The Wallich ddarparu cefnogaeth wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gwasanaeth, a ariennir gan Gyngor Gwynedd drwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru, wedi cyflawni’r canlynol:

Mae sicrhau bod neb yn ddigartref yn y sir yn flaenoriaeth allweddol i Gyngor Gwynedd ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu mwy o unedau tai â chefnogaeth, a darparu pecynnau cefnogaeth i landlordiaid preifat er mwyn annog mynediad at fwy o dai. Daw’r holl gynlluniau hyn o dan Gynllun Gweithredu Tai gwerth £190 miliwn y Cyngor.

Dywedodd Neil, a gefnogwyd drwy wasanaeth Tai yn Gyntaf Gwynedd:

“Dw i wedi bod yn ddigartref ers 2018 ac wedi byw mewn llety argyfwng gan y Cyngor ers hynny. Ond ers cwrdd â The Wallich, alla i ddim credu faint o gefnogaeth a help dw i wedi’i gael. Chwarae teg iddyn nhw. Dydw i erioed wedi cael y math yma o gefnogaeth o’r blaen.

“Rŵan, dw i mewn lle da iawn. Dw i’n hapus, rhywbeth dw i heb fod ers llawer iawn o flynyddoedd. Mae gen i fflat bach un ystafell wely.

“Camau bach, ond mae gen i gynlluniau da i’r flwyddyn newydd.”

Dywedodd Nicola Lamerick, Rheolwr Tai yn Gyntaf yn The Wallich:

“Hoffwn ddiolch i’n holl asiantaethau partner am eu cefnogaeth barhaus i’r prosiect. Yn The Wallich, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth sy’n ystyriol o drawma, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cynnig atebion go iawn a pharhaol i roi terfyn ar ddigartrefedd.

“Yng Ngwynedd, rydym wedi cefnogi unigolion a oedd mewn amgylchiadau anodd iawn pan wnaethon ni eu cyfarfod am y tro cyntaf, ac erbyn hyn, maent yn ffynnu. Dw i’n hynod o falch o waith fy nhîm, mae eu hymroddiad a’u tosturi yn wirioneddol newid bywydau’r rheini rydym yn eu cefnogi.

“Rydym wedi gwneud cynnydd gwych, gyda bron i hanner y rhai rydym yn eu cefnogi wedi symud ymlaen o gyfnodau hir o ddigartrefedd ac erbyn hyn maent yn byw mewn cartrefi diogel, parhaol.

“I gynnal y momentwm yma, mae angen mwy o gartrefi arnom. Rydym yn gwahodd landlordiaid a darparwyr tai i gysylltu â ni i helpu i yrru’r gwasanaeth yn ei flaen. Gyda’n gilydd, gallwn gynnig gobaith, sefydlogrwydd a dyfodol i’r rheini sydd ei angen fwyaf.”

Maniffesto Wallich

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Gwynedd:

“Mae Tai yn Gyntaf yn darparu cartref sefydlog yn gyflym, ochr yn ochr â chefnogaeth effeithiol i bobl ag anghenion cymhleth sy’n profi digartrefedd. Mae’r model wedi’i brofi i weithio ledled y byd, a dw i’n falch o weld pobl yng Ngwynedd yn elwa o wasanaeth mor dosturiol. Mae gweithio mewn partneriaeth â’r Wallich wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant yma.

“Mae cefnogi pobl sy’n profi digartrefedd yn flaenoriaeth i’r Cyngor, ac mae llwyddiant y cynllun yma dros y flwyddyn ddiwethaf yn un rhan o’n hymrwymiad ehangach i sicrhau yn y pen draw nad oes neb yn ddigartref yng Ngwynedd.”

Mae gwasanaeth Tai yn Gyntaf yn wasanaeth arbenigol sydd ar gael trwy atgyfeiriad yn unig. Os ydych chi’n ddigartref, neu’n poeni am rywun sy’n cysgu allan, cysylltwch â gwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd:

Cysylltwch os gallwch ddarparu eiddo i’r gwasanaeth Tai yn Gyntaf: TaiynGyntafGwynedd@thewallich.net