Ymgyrch gaeaf The Wallich yn codi £40,000 er mwyn rhoi diwedd ar ddigartrefedd

14 Feb 2025

anrheg nadolig

Diolch i haelioni a charedigrwydd ein cefnogwyr, mae The Wallich wedi rhoi cymorth i oddeutu 4,000 o bobl ym mhob rhan o Gymru’r gaeaf hwn

Ym mis Hydref 2024, fe wnaethom lansio ein hymgyrch flynyddol i godi arian dros y gaeaf, yn ogystal â’n Hapêl Nadolig, gyda’r bwriad o leddfu ychydig ar yr argyfwng costau byw i’r preswylwyr yn ein hostelau.

Ein nod oedd rhoi hwb i’n cronfeydd er mwyn lleddfu’r caledi sy’n wynebu’r bobl rydym ni’n eu cefnogi ac sy’n profi digartrefedd, mewn perygl o brofi digartrefedd, neu mewn sefyllfa ansicr o ran cartref, a hynny ym mhob rhan o Gymru.

Mae aelwydydd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig yn teimlo’r pwysau sy’n cael ei achosi gan yr argyfwng costau byw parhaus hwn.  Wedi dweud hynny, mae’r argyfwng yn effeithio ar bawb mewn ffordd wahanol.

Mae rhai yn cyfyngu ar faint maen nhw’n bwyta allan, eraill yn trio peidio â rhoi’r gwres ymlaen, neu’n cael trafferth talu rhent. Mae stori pawb yn wahanol.

Cyfanswm a godwyd: £44,759

Bwriad ein Hapêl Nadolig oedd codi digon o arian i ddarparu cinio Nadolig poeth ac anrheg i’r 400 o bobl sy’n byw yn ein hosteli digartrefedd.

Apêl Nadolig: £4,902

Mae ein cymorth a’n gwasanaethau yn datblygu’n barhaus er mwyn ceisio diwallu anghenion y bobl rydym ni’n rhoi cymorth iddynt.

Oni bai amdanoch chi – ein cefnogwyr – byddai’n amhosib helpu cynifer o bobl.

Rydym ni’n ddiolchgar iawn, ac wedi rhyfeddu tuag at y gefnogaeth rydym ni wedi ei derbyn.

Cefnogaeth gan Unigolion

Rydym ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi rhodd, boed hwnnw’n £2 neu’n £200.

Fe wnaeth nifer ohonoch roi arian ar lein, neu mewn bwced, ac fe wnaeth rhai ohonoch roi eitemau.

Roedd rhai rhoddion yn rhoddion un-tro, ac fe wnaeth eraill ymroi i roi rhodd pob mis.

Mae pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth ac yn ein helpu ni i gefnogi pobl a rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Fe wnaeth 736 o unigolion hael roi rhodd unigol neu drefnu i roi rhodd yn rheolaidd i The Wallich eleni.

Raffl Gaeaf The Wallich

Mae Raffl Gaeaf flynyddol The Wallich yn ffordd hawdd o gefnogi ein hymgyrch gaeaf, dim ond £2 yw’r tocyn rhataf.

textimgblock-img

Mae’r gwobrau’n cynnwys profiad gyrru Ceir Cyflym, cyfle i aros dros nos yn y Celtic Manor, taleb  M&S gwerth £250, diwrnod Pledu Paent i 10, a thocynnau i weld pob un o’r pedwar tîm Rygbi yng Nghymru.

Gyda chymorth ein gwerthwyr cymunedol, fe lwyddon ni i werthu 1,917 o docynnau a chodi cyfanswm o £3,834

Wnaethoch chi gymryd rhan? Mae’r enillwyr i gyd wedi cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Cefnogaeth gan Gymunedau

Mae dod â’r gymuned ynghyd yn ein helpu ni i ddatrys y broblem ddigartrefedd.

Rydym ni wedi rhyfeddu at y gefnogaeth rydym ni wedi ei derbyn gan grwpiau cymunedol ym mhob rhan o Gymru yn ystod ein hymgyrch y gaeaf.

Hoffwn ddiolch i’r holl gymunedau sydd wedi ein cefnogi ni’r gaeaf hwn.

Dyma rai o’r mudiadau arbennig sydd wedi ein cefnogi ni eleni:

Cefnogaeth gan Sefydliadau Corfforaethol

textimgblock-img

Mae nifer o sefydliadau ym mhob rhan o Gymru wedi bod yn rhan o’r ymateb cymunedol i ddigartrefedd.

Diolch yn fawr i bob busnes sydd wedi cymryd rhan. Maent yn cynnwys:

  • Kirby Group Engineers, cefnogwyr newydd a gyfrannodd £10,000!
  • Waitrose Y Bont-faen a gyfrannodd £1,375 er mwyn darparu cinio Nadolig ac anrhegion i’r preswylwyr yn Hostel Syr Julian Hodge
  • Grŵp Admiral am ddewis The Wallich fel yr elusen benodedig ar gyfer un o’u 24 diwrnod o roi, a chyfrannu £1,000

Dywedodd, Chelsea Harrington, Ymgyrchydd Codi Arian gyda The Wallich

“Diolch o galon i bawb sydd wedi cefnogi Ymgyrch Gaeaf The Wallich eleni, boed hynny drwy roi cyfraniad, prynu neu werthu tocynnau raffl, ymgyrchu yn eich gweithle neu yn eich cymuned leol, neu roi’r neges ar led.

Mae eich cefnogaeth yn sicrhau ein bod ni’n gallu dal ati i helpu’r bobl sydd mewn perygl o brofi digartrefedd neu galedi, gan ddarparu beth maen nhw ei angen iddynt, pan maen nhw ei angen.

Mae cael cymorth ac anogaeth gan gymunedau yn golygu’r byd i ni, a’r gwir amdani yw na fyddem ni’n gallu gwneud ein gwaith heboch chi.  Diolch.”

Rydym ni’n gwerthfawrogi eich cefnogaeth trwy gydol y flwyddyn

Rydym ni’n rhoi cymorth i bobl drwy’r flwyddyn, nid yn ystod misoedd y gaeaf a’r Nadolig yn unig, ac mae eich rhoddion chi yn ein helpu ni i gael pobl oddi ar y stryd, ac i’w cadw oddi ar y stryd, gan greu cyfleoedd iddynt.

Cefnogwch The Wallich er mwyn ein helpu ni i ddileu digartrefedd am byth yng Nghymru.