“Mae’n anodd gweld sut gall Llywodraeth Cymru gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 heb agwedd newydd at gyffuriau anghyfreithlon. Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru (a ledled y DU) wedi bod ar lefelau uwch nag erioed ers pedair blynedd ac mae cyfradd marwolaethau Cymru yn waeth na chyfartaledd y DU.
“Mae angen dull realistig ac arloesol arnom o gefnogi pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau, oherwydd mae’n amlwg nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn gweithio.
“Mae’r Wallich yn gweithredu dull lleihau niwed yn y rhan fwyaf o’n prosiectau. Mae rhai yn seiliedig ar ymatal, ond mae’r rhan fwyaf yn gallu cynnig opsiynau ar wahân i chwistrellu a gwaredu’n ddiogel o fewn ffiniau’r gyfraith.
“Drwy’r sector, mae prosiectau ‘dim goddefgarwch’ yn ceisio gwahardd defnyddio cyffuriau ar eu heiddo. Ond y gwirionedd yw bod y defnydd o gyffuriau’n gallu digwydd – yn gyfrinachol ac, yn ôl pob tebyg, yn llai diogel.
“Yn ein profiad ni, mewn prosiectau lle mae preswylwyr yn teimlo’n hyderus wrth siarad â staff, ac mae aelodau staff eu hunain yn ymwybodol o’r hyn a allai ddigwydd yn eu heiddo ac wedi’u hyfforddi i gydnabod ac ymateb i argyfyngau megis gorddosau cyffuriau, mae digwyddiadau fel hyn yn fwy tebygol o gael eu hateb yn effeithiol, yn ddiogel a gyda gwell canlyniadau.
“Fodd bynnag, dim ond ar gyfer y rheini sydd wedi ymgysylltu â gwasanaethau ac wedi derbyn cynnig llety y mae’r dull hwn yn gweithio. Mae natur ‘anhrefnus’ a pheryglus sy’n aml yn gysylltiedig â chysgu ar y stryd a bywyd ar y stryd yn golygu bod llawer o bobl yn methu cyfleoedd i fynd i’r afael â phroblemau defnyddio cyffuriau.
“Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull gweithredu newydd. Bu trafodaeth yn ddiweddar ynghylch a ddylid trin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd, yn hytrach na mater cyfiawnder troseddol. Cafodd y drafodaeth gefnogaeth eang gyda 36 Aelod o’r Cynulliad yn pleidleisio o blaid y mater a dim ond naw yn ei erbyn. Mae’r Wallich hefyd yn cefnogi’r dull hwn yn llawn.
“Yr hyn yr hoffai’r Wallich ei weld yw treial o gyfleusterau chwistrellu mwy diogel yma yng Nghymru.
“Mae budd amlwg i’r agwedd hon ar iechyd y cyhoedd a llawer iawn o dystiolaeth ar draws Ewrop gyfan yn dangos bod hwn yn arf effeithiol ar gyfer lleihau niwed i unigolion sy’n defnyddio cyffuriau, yn ogystal â’r gymuned ehangach drwy gael gwared ar sbwriel cyffuriau yn fwy diogel.”