Raffl yn cau: Dydd Iau 5 Mehefin, 5pm
Enillwyr yn cael eu cyhoeddi: Dydd Gwener 6 Mehefin
Mae tocynnau raffl yn dechrau o £2, a gallwch eu prynu ar lein.
Gallai dau docyn (£4) helpu i dalu am docyn teithio neu ID hanfodol — camau bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n symud ymlaen y gwanwyn hwn.
Gallai pum tocyn (£10) helpu rhywun i brynu gwerth wythnos o hanfodion bwyd, gan leihau’r pwysau nes byddan nhw’n ôl ar eu traed.
Dim ond ychydig o’r pethau y mae pobl Cymru yn delio â nhw yw biliau cynyddol, taliadau morgais a rhent uchel, prisiau bwyd eithafol a chyflogau isel.
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith uniongyrchol ar aelwydydd yng Nghymru ac yn rhoi llawer mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.
Mae Raffl y Gwanwyn The Wallich 2025 yn estyniad o’n hymgyrch gaeaf yn 2024.
Rydyn ni’n parhau i godi arian hanfodol er mwyn lleddfu caledi unrhyw un sy’n wynebu digartrefedd, mewn perygl o brofi digartrefedd, neu mewn sefyllfa ansicr o ran cartref, a hynny ym mhob rhan o Gymru.
Er bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a ledled y DU, mae digartrefedd yn dal ar gynnydd.
Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar Gambleaware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu fynd ar y wefan www.gambleaware.co.uk.