
Mae The Wallich yn cefnogi tua 8,000 o bobl sy’n ddigartref, neu mewn perygl o fod yn ddigartref, ac sy’n wynebu ofn ac ansicrwydd digartrefedd yng Nghymru bob blwyddyn.
Mae eich rhoddion chi’n golygu y gallwn gamu i’r adwy pan fydd ar rywun angen help ar frys.
Dewiswch sut hoffech chi roi:
Drwy drefnu rhodd reolaidd, byddwch yn sicrhau bod The Wallich yn gallu bod yno nid yn unig yn y gaeaf, ond gydol y flwyddyn.
Gallai eich rhodd untro y gaeaf hwn fod yn gymorth brys i rywun sydd ei angen fwyaf.
Cymerwch Jess, er enghraifft, sy’n teimlo effaith yr argyfwng tai yng Nghymru.
Ar ôl cael gorchymyn i’w throi allan, cafodd Jess – sy’n fam i bedwar ac yn fyfyrwyr coleg amser llawn – ei gorfodi i symud i lety dros dro.
A hithau’n benderfynol o greu dyfodol gwell i’w phlant, bu’n cynilo pob ceiniog y gallai. Ond doedd hynny ddim yn ddigon i gael cartref parhaol iddynt.

Roedd Jess yn wynebu dewis amhosibl:
Gyda’r pwysau’n cynyddu, trodd Jess at The Wallich.
Diolch i garedigrwydd pobl fel chi, rhoesom grant bach ond hanfodol i Jess. Roedd yn ddigon i dalu am y costau terfynol i sicrhau tenantiaeth ac i’w helpu i symud ei theulu i gartref cynnes a sefydlog – mewn pryd.
*Newidiwyd yr enwau a’r delweddau rhag datgelu pwy yw’r bobl sy’n cael cefnogaeth gan The Wallich.
Gall eich rhodd newid bywydau – gan helpu rhywun i:
Rhowch faint bynnag y gallwch.