Mae pobl o bob rhan o Sir Ddinbych sy’n cael help gan y Wallich yn mentro i bellafoedd Cymru ar raglen datblygiad personol wyth wythnos o hyd sydd wedi’i seilio ar thema’r mynyddoedd.
Yn ystod yr wythnosau yma, bydd y bobl ddewr hyn yn cerdded ac yn dringo rhai o fynyddoedd uchaf Eryri.
Bydd y sawl sydd wedi treulio amser mewn mannau gwyllt yn gwybod bod amser sy’n cael ei dreulio yno’n fwy na ‘mynd am dro’. Ac mae hynny wedi gwneud imi feddwl…
I lawer o bobl, eu nod yn y pen draw (neu’r copa) yw lle diogel i fyw. Ond i gyrraedd y pwynt hwnnw, mae siwrnai y mae’n rhaid i bawb fynd arni. Mae siwrnai pawb yn wahanol a gall fod yn llawn o rwystrau ac anawsterau. Ond mae modd trechu pob un ohonynt.
Pan fyddwn yn cerdded i fyny mynydd, efallai y byddwn yn troi’n ôl cyn cyrraedd y copa, oherwydd newid yn y tywydd, am nad oes gennym offer digonol ar gyfer y dirwedd, neu weithiau am nad oes gennym y profiad/arbenigedd i ddilyn y llwybr yn ddiogel.
Nid yw canfod ffordd allan o ddigartrefedd mor wahanol â hynny, gan fod y llwybr yn gallu bod yr un mor llawn o newidiadau a heriau.
Os baswn yn gofyn: beth ydych chi’n feddwl mae gwasanaethau digartrefedd yn ei wneud, sut fyddech chi’n ateb?
Pe baech yn dweud helpu pobl i gael cartref, mi fyddech yn gywir.
Pe baech yn dweud rhoi gwely i bobl am noson (neu fwy), mi fyddech yn gywir.
Pe baech yn dweud cynnig pethau fel sachau cysgu a bwyd, mi fyddech yn gywir.
Ond beth pe bawn yn dweud ein bod hefyd yn cynnig:
Mae helpu pobl o ddigartrefedd yn fwy na dod o hyd i gartref iddynt, mae hefyd yn golygu, ac mae hyn yn aml yn bwysicach, gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi sylw i beth bynnag sydd wedi cyfrannu at eu gwneud yn ddigartref yn y lle cyntaf.
Gallai cymorth eu helpu i ddeall perthnasoedd iach, fel na fyddant yn agored i gael eu twyllo neu eu cam-drin eto.
Gallai olygu gwneud iddynt deimlo’n well amdanynt eu hunain, fel na fyddant yn cau eu hunain i mewn eto.
Gallai olygu cael gwaith cyflogedig, i leddfu pryderon ariannol a chael ymdeimlad o bwrpas.
Weithiau, mae’n golygu rhoi rhywbeth i rywun i edrych ymlaen ato, rhoi lle iddynt i gamu’n ôl a rhywbeth positif i feddwl amdano, yn hytrach na’u lle ar restr aros y gofrestr dai, neu am faint yn rhagor fydd yn rhaid iddynt aros cyn gweld arbenigwr iechyd meddwl.
Nid yw gwerth therapiwtig amser mewn natur yn gyfrinach. Gydag effaith y gwahanol gyfnodau o gyfyngiadau symud, roedd amser yn yr awyr agored yn un o’r ychydig bethau oedd ar gael i bobl yn y DU, ac roedd yn rhaid i bob un ohonom ddysgu sut i werthfawrogi’r mannau gwyrdd yn agos at ein cartrefi.
Rydym i gyd yn cael rhywbeth gwahanol yn sgil ein hamser yn yr awyr agored. Ychydig flynyddoedd yn ôl, mi es i Fannau Brycheiniog gyda phobl a oedd yn defnyddio gwasanaethau’r Wallich.
Mi gawsom sgwrs y diwrnod hwnnw y byddaf yn ei chofio am byth. Roedd yn sgwrs â dyn nad oedd byth yn gwybod a fyddai’n cael gwely drwy wasanaeth gwelyau argyfwng y noson honno ac roedd hefyd ar bresgripsiwn am gaethiwed i heroin.
Wrth inni gerdded oddi ar Fan Brycheiniog, tuag at ddyfroedd gwyntog Llyn y Fan Fawr, dywedodd:
“Wyddost ti beth, Grant, nid wyf wedi gorfod meddwl o gwbl am ble rwy’n mynd i gysgu heno.”
Dychmygwch orfod meddwl am hynny gydol yr amser.
Bydd y rhan fwyaf o’r bobl sy’n gysylltiedig â’n gwasanaethau wedi profi trawma yn eu bywydau. Gallai hyn ddigwydd drwy brofi trais domestig fel plant, bod â rhieni â phroblemau camddefnyddio alcohol neu sylweddau neu fod wedi profi camdriniaeth fel plant.
Weithiau mae effaith y trawma hwn yn gallu cyfrannu at afiechyd meddwl, caethiwed, perthnasoedd camdriniol neu droseddu.
Mae ein cymorth wedi’i deilwra i gydnabod yr hanesion hyn a lleihau’r effaith negyddol y gallant ei gael ar eu presennol.
Mae’r rhaglen datblygiad personol sy’n seiliedig ar fynyddoedd yn anelu i wneud hynny.
Mae’n bwysig nodi bod pob un o’r 8 sesiwn sy’n cael eu cynnig i’n defnyddwyr gwasanaeth yn cynnwys seicotherapydd.
Mae pob gweithgarwch a thaith wedi’u cynllunio i herio ac i wella ar yr wythnos flaenorol. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn dysgu sut i edrych ar eu hôl eu hunain ar y mynyddoedd, sut i gadw’n gynnes a diogel, a sut i ganfod eu ffordd yn ddiogel.
Bydd y cyfranogwyr yn dysgu sgiliau newydd fel sut i wisgo harnais, sut i glymu cwlwm ffigur 8, sut i angori, sut i ddewis llwybr, a sut i oresgyn y gorbryder a all godi wrth fod yn rhywle newydd a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol.
Bydd y rhaglen yn helpu pobl i gryfhau – yn gorfforol ac yn feddyliol. Bydd yn helpu pobl i sylweddoli eu bod yn werth mwy na label. Bydd yn helpu mewn ffyrdd na allwn eu rhagweld. Ond mi fydd yn helpu.
Fel yn achos unrhyw ddatrysiad newydd, arloesol i helpu pobl sydd wedi profi digartrefedd, mae hyn i gyd yn costio.
Ond, diolch i rai awdurdodau lleol cefnogol yn y Gogledd, arweinydd mynydd gwych, seicotherapydd hyfryd sy’n arbenigo mewn therapïau awyr agored, ynghyd â chefnogaeth Outdoors Magic, Webtogs a Joe Browns, rydym wedi creu cyfle anhygoel i helpu pobl ar siwrnai, nid i’r mynyddoedd yn unig, ond i le lle maent mewn gwell sefyllfa i ymdopi â’r heriau sy’n dod gyda bywyd.
Allwn ni ddim aros i glywed am yr holl anturiaethau a’r datblygiadau a ddaw yn sgil y rhaglen.
Os gallwch ein helpu i gynnig cyfleoedd llesiant cyffrous i’r bobl rydym yn eu helpu ledled Cymru, mi hoffem glywed gennych.
E-bost: dosomething@thewallich.net
Ni fyddai’r cynllun hwn yn bosibl heb help grŵp o awdurdodau lleol a busnesau.
Mae’r awdurdod lleol wedi darparu cyllid ychwanegol i’r Wallich i redeg y rhaglen datblygiad personol hon sy’n seiliedig ar fynyddoedd. Mae hefyd wedi ariannu grŵp ar wahân o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau eraill yn y sir.
Mae ein Harweinydd Mynydd a’n Hyfforddwr Dringo’n cynnig amryw o wasanaethau, o deithiau cerdded gyda thywysydd i ddysgu canfod eich ffordd o gwmpas a chyrsiau sgiliau mynyddoedd, yn ogystal â dyddiau dringo dan do ac awyr agored.
Mae ganddo gymwysterau llawn ac mae wedi’i yswirio i gynnig y gweithgareddau hyn. Mae’n cynnig profiadau cyfeillgar, amyneddgar a phleserus i bawb.
Mae Belinda yn rhedeg pob sesiwn. Bydd yn arwain amrywiaeth o sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar a gweithgareddau sgiliau ymdopi byr. Mae hi’n aelod cofrestredig o Gymdeithas Cwnselwyr a Seicotherapyddion Prydain (MBACP).
Mae Belinda hefyd yn Arweinydd Cerdded cymwysedig ac mae ganddi Ddyfarniad Arweinydd yr Iseldir gyda’r Gymdeithas Hyfforddiant Mynyddoedd (MTA).
Fel Athrawes Ymwybyddiaeth Ofalgar, mae wedi’i hyfforddi i addysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar gyda Chanolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Bangor ac mae hefyd yn Hyfforddwr Llais hyfforddedig.
Ar adeg ei sefydlu yn 1999, Outdoors Magic oedd un o’r gwefannau cyntaf yn y byd i ymdrin â gweithgareddau awyr agored a hyd heddiw mae’n cynnig gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i gynulleidfa fyd-eang o gerddwyr, rhedwyr llwybrau, seiclwyr a phawb sy’n mwynhau’r awyr iach.
Mae Outdoors Magic wedi rhoi offer awyr agored o safon inni, a fydd yn helpu i gadw’r rhai sy’n cymryd rhan yn gynnes, sych a diogel ar y mynyddoedd.
Siop cyfarpar awyr agored arbenigol, sy’n arbenigo mewn cerdded mynyddoedd, gwarbacio, dringo a gwersylla.
Mae’r siop yn cymell eu cwsmeriaid i ddychwelyd offer awyr agored mewn cyflwr i’w ailddefnyddio, yn gyfnewid am ostyngiadau ar eitemau newydd.
Bydd yr offer ail-law’n cael ei roi i rai ar ein rhaglen ar ddiwedd pob sesiwn ar y mynyddoedd, i’w galluogi i barhau â’u siwrnai tuag at lesiant ar y mynyddoedd.
Fel gwerthwyr dillad awyr agored sy’n gwerthu’r dewis gorau o’r dillad, sgidiau ac offer awyr agored technegol gorau gan 50 brand gorau’r diwydiant.
Mae cynaliadwyedd yn ganolog i bopeth a wnânt ac maent yn plannu coeden am bob archeb sy’n cael ei phrosesu.
Mae Webtogs wedi rhoi offer awyr agored o safon inni, a fydd yn helpu i gadw’r rhai sy’n cymryd rhan yn gynnes, sych a diogel ar y mynyddoedd.