Roedd y dyfyniad uchod mewn blog a ysgrifennwyd gan Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar destun atal hunanladdiad a’r cynnydd a wnaed i ddelio â hunanladdiad yng Nghymru.
Y rheswm pam fod y canfyddiad hwn yn destun pryder i mi yw oherwydd ei fod yn disgrifio’r rhan fwyaf o’n cleientiaid. Mae’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw, yn ein prosiectau preswyl ac ar y strydoedd yn bennaf yn wrywod yn yr ystod oedran yma. Gallwch weld hyn os edrychwch ar ein hadroddiadau chwarterol ar gysgu allan.
Ar ben hyn, gellid disgrifio rhai o’r cymunedau y daw ein cleientiaid ohonynt fel rhai ‘difreintiedig’.
Felly nid yw’n syndod bod The Wallich yn cymryd y mater hwn o ddifrif. Dyna pam ein bod yn cyflwyno prosiect newydd, Y Rhwydwaith Myfyrio, lle byddwn yn gweithio i atal hunanladdiad a hunan-niwed ymysg ein cleientiaid. Yn ogystal â hyn, rydym eisiau gwella iechyd meddwl gymaint ag y gallwn yn y cymunedau a gynorthwywn.
Rydym wedi galw’r prosiect yn Rhwydwaith Myfyrio oherwydd nad oeddem eisiau iddo fod yn rhy glinigol, meddygol neu frawychus. Rhaglen ydyw sy’n cynnig gwasanaeth cwnsela dan arweiniad y cleient a seicotherapi, yn seiliedig ar y profiad yr ydym wedi’i ddatblygu dros gyfnod o flynyddoedd yn gweithio gyda phobl ddigartref.
Trwy ddarparu sesiynau – gan fanteisio ar ddulliau a brofwyd ac yr ymchwiliwyd yn drylwyr iddynt (fel Therapi Ymddygiad Gwybyddol) – rydym yn gobeithio y gallwn gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl ein cleientiaid. Bydd hyn yn effeithio ar eu bywydau’n ehangach: er enghraifft, gan leihau camddefnyddio sylweddau.
Mae ein hystadegau, yn ogystal â’r rhai a gyhoeddwyd gan sefydliadau eraill yn dangos bod pobl sy’n profi digartrefedd yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl. Byddwn yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth drwy Gymru i wella’r sefyllfa hon – ac er bod ystadegau’n dangos pa grwpiau demograffig sydd fwyaf tebygol o fod yn delio â phroblemau fel hyn, byddwn wrth gwrs yn gweithio gydag unrhyw un y mae angen ein cymorth arnynt.
Byddwn nid yn unig yn cynnal y sesiynau cwnsela hyn, ond byddwn yn cyflwyno Amgylcheddau sy’n Seiliedig ar Anghenion Seicolegol ar draws ein sefydliad. Mae hyn yn golygu y bydd pob amgylchedd lle’r ydym yn gweithio gyda chleientiaid yn cael eu cynllunio gan ystyried eu hadferiad. Mae hyn yn cyd-fynd a’r dull sy’n cael ei lywio gan drawma a fabwysiadir gennym yn yr holl waith a wnawn.
Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod Y Rhwydwaith Myfyrio yn cyd-fynd â strategaeth Siarad â Fi sef yr hyn y mae blog y Cynulliad yn trafod y dylid gwneud cynnydd tuag ati.
Mae Siarad â Fi yn mynd y tu hwnt i weithio gydag unigolion, o geisio dylanwadu ar arfer adrodd cyfrifol yn y wasg am hunanladdiadau, i wella ymwybyddiaeth ymysg cymunedau problemau iechyd meddwl a thriniaeth bosibl.
Bydd Y Rhwydwaith Myfyrio’n cael ei lansio’n fuan a bydd yn cael ei ddarparu gan wahanol aelodau o staff The Wallich; yn cynnwys gweithwyr meddygol proffesiynol sy’n arbenigwyr yn y maes hwn. Byddwn yn eich diweddaru wrth iddo ddatblygu.
Rydym yn hyderus y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru sy’n delio â phroblemau iechyd meddwl neu’n ystyried hunanladdiad.
Os ydych yn poeni am hunanladdiad, ffoniwch linell Gymraeg y Samariaid ar: 0808 164 0123.
Hefyd ar y dudalen GIG ceir rhestr o ‘ffynonellau cymorth’ tuag at y gwaelod.
Os oes gennych ddiddordeb mewn hyfforddiant ar ymyrraeth ac atal hunanladdiad, mae Sefydliad Jacob Abraham yn lle da i ddechrau.