Swyddfa’r Wasg

Gall The Wallich gynnig amryw o gyfleoedd i newyddiadurwyr ac aelodau’r cyfryngau

Rydym yn cefnogi grŵp cleientiaid amrywiol sydd â straeon unigryw i’w hadrodd a phrofiadau unigryw o ddigartrefedd.

Mae ein huwch dîm yn siaradwyr cymwys gyda phrofiad eang o bynciau fel cysgu allan, tai, lles, camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl. Mae ein harbenigwyr ar gael i’w cyfweld ar gais.

Gallwn gynnig sylwadau ar newyddion sy’n torri, a gallwn ddarparu lluniau, astudiaethau achos, trefnu cyfweliadau gyda siaradwyr yn cynnwys ein defnyddwyr gwasanaeth a gwybodaeth ar ein newyddion a’n hymgyrchoedd diweddaraf.

Cysylltwch â swyddfa’r wasg Wallich

Cysylltwch â ni o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm:
F 02920 668 464 (opsiwn 5)
E communictions@thewallich.net

Y tu allan i oriau:
F 07467 009 272

Nodwch: ar gyfer y cyfryngau’n unig y mae’r rhifau hyn. Os ydych yn ddigartref, yn poeni eich bod am fod yn ddigartref neu os oes gennych unrhyw gais arall, ewch i’r dudalen ‘Cysylltu’ 

Datganiadau i’r wasg

Mynnwch wybodaeth am ein hymchwil, ein newyddion a’n ymgyrchoedd diweddaraf drwy ein datganiadau i’r wasg. I dderbyn y rhain cyn gynted ag y maen nhw’n cael eu cyhoeddi, anfonwch eich enw, sefydliad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost i: communications@thewallich.net   

Myfyrwyr

Rydym yn derbyn nifer o ymholiadau am gymorth gyda thraethodau, traethodau hir a phrosiectau ymchwil ac yn aml mae’n anodd i ni ymateb oherwydd y galw ar ein gwasanaethau.

Os gallwn ymateb i’ch cais, byddwn yn cysylltu’n ôl â chi. Yn anffodus, os na fyddwn yn cysylltu â chi, fyddwn ni ddim yn gallu ymateb i’ch cais y tro hwn.

Mae ein gwefan yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr, yn cynnwys ystadegau, astudiaethau achos, straeon newyddion ac adroddiadau ymchwil y mae croeso i fyfyrwyr eu defnyddio yn eu hastudiaethau.