
Mae pawb sy’n symud i mewn gyda ni yn cael pecyn hylendid sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnyn nhw i ddechrau teimlo’n ffres. Gallai hyn fod yn frwsh dannedd, past dannedd, rasel, ewyn eillio, cynnyrch mislif, jel cawod a siampŵ.
Maen nhw’n cael dillad gwely ffres a bag golchi dillad – ac maen nhw’n cael mynd â’r rhain gyda nhw pan fyddan nhw’n symud i’w cartref newydd.
Symudodd rhywun i mewn i un o’n tai yn ddiweddar a dim ond y dillad roedd yn eu gwisgo oedd ganddo a bag cefn yn dal ei holl eiddo. Nid oedd wedi bwyta ers dyddiau ac roedd wedi blino’n lân. Wrth i’n tîm ei groesawu, fe wnaethon ni sylweddoli ei fod wedi bod yn goroesi ar ddim byd.
Felly, wrth iddo gysgu – yn drwm ac yn ddiogel – yn ei ystafell newydd fe wnaethon ni ddefnyddio arian a oedd wedi cael ei roi gan y cyhoedd i’w helpu. Fe aethon ni allan i brynu ychydig o grysau t, trowsusau tracwisg, siwmperi a chôt iddo.
Roeddem ni wedi cael talebau Greggs, ac ar ôl iddo ddeffro fe wnaethon ni roi rhai iddo, a’i gyflwyno i’r trigolion eraill sy’n rhoi eu harian at ei gilydd i goginio prydau bwyd gyda’i gilydd.
Gan sylweddoli bod ei iechyd mewn perygl, fe wnaethom sicrhau ei fod wedi’i gofrestru gyda meddyg teulu a threfnu archwiliad.
Mae pobl heb gartref yn aml yn gorfod aberthu eu hanghenion sylfaenol – bwyd, lloches, iechyd, cariad, cysylltiad.