Torri’r cylch: Sut y gallai trosglwyddiadau arian parod newid bywydau yn y gymuned ddigartrefedd

Blog gan Phill Stapley, Arweinydd Gweithredol Strategol

21 Mar 2025

Pe baech yn derbyn £2,000 i’w wario ar unrhyw beth yr ydych ei eisiau, heb unrhyw amodau, ar beth fyddech chi’n ei wario?

Dyma’r union sefyllfa a brofodd rhai unigolion a gefnogwyd gan The Wallich yn ystod haf 2022.

Roedd pedwar sefydliad o bob rhan o’r DU, sy’n cefnogi’r bobl sy’n profi digartrefedd, yn rhan o’r prosiect peilot hwn.

Dewiswyd defnyddwyr y gwasanaeth ar hap ar gyfer treial trosglwyddo arian tra chyfrinachol, un o’r cyntaf o’i fath yn y DU.

Cawsant flaendal o £2,000 yn eu cyfrif banc heb unrhyw gyfyngiadau ar sut y gallent ei wario.

Rydym wrth ein bodd yn dweud y dylai’r canlyniadau olygu mwy o ymddiriedaeth yn y bobl rydym yn eu cefnogi i wario eu harian yn gynhyrchiol.

Pwyso a mesur y risgiau a’r gwobrau: Rhagfynegi effaith trosglwyddiadau arian parod anghyfyngedig

Awgrymodd ymchwil o dreialon a gynhaliwyd ledled y byd fod treial fel hwn yn cael canlyniad cadarnhaol – yn hytrach nag un negyddol.

O ystyried yr heriau cymhleth a wynebir gan y rhai a gefnogir gan The Wallich, roedd pryder y byddai rhai unigolion yn defnyddio’r arian i ymdopi â straen neu drawma o’u gorffennol drwy ddefnyddio sylweddau neu ei wario’n  fyrbwyll.

Roedd pryderon pwysig yn ymwneud â diogelu, gan gynnwys y potensial o ymelwad ariannol a’r posibilrwydd, i rai unigolion, y gallai chwistrelliad sydyn o arian parod fod yn sbardun ar gyfer ymddygiadau risg uchel.

Roedd y risgiau hyn hefyd yn cynnwys y potensial am ganfyddiad negyddol gan y cyhoedd, a allai ddylanwadu ar gefnogaeth i fentrau tebyg yn y dyfodol.

Ar y llaw arall, roedd llawer o gyfranogwyr yn debygol o ddefnyddio’r arian yn ddoeth, gan wneud dewisiadau a fyddai’n cefnogi eu llesiant a’u sefydlogrwydd.

I’r rhai sy’n profi digartrefedd neu’n byw mewn llety dros dro, gallai’r chwistrelliad ariannol hwn fod yn gyfle hollbwysig i wella eu hamgylchiadau a gweithio tuag at ddiogelu eu dyfodol.

Fodd bynnag, wrth ei flas mae profi pwdin.

Sicrhau tegwch a chywirdeb

Gweinyddodd Kings College London y treial gyda The Wallich.

Ni ddywedwyd unrhyw fanylion gwirioneddol wrth y staff cymorth, ac eithrio a oeddent yn teimlo bod y cleientiaid y maent yn eu cefnogi yn gymwys ar gyfer y treial.

Gofynnodd King’s College London i gyfranogwyr a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn ymuno â threial lle gallent dderbyn arian, gyda’r dewis ar hap. Roedd yn ofynnol i gyfranogwyr gael cyfrif banc a byddent yn cysylltu â nhw ar hap.

Derbyniodd pob cyfranogwr daleb am gymryd rhan, p’un a oeddent yn derbyn yr arian ai peidio.

Ni fyddai hyd yn oed The Wallich yn gwybod pwy fyddai’n derbyn yr arian.

Ar ôl llawer o gyfarfodydd, mesurau diogelu, dilemâu moesegol a phrotocolau i sicrhau cywirdeb y treial, dechreuodd y prosiect a dewiswyd cleientiaid ar hap.

Adborth cyfranogwyr: Straeon go iawn o’r treial trosglwyddo arian parod

*Mae pob enw wedi’i newid i ddiogelu enw’r cleient

Olivia

Roedd gan Olivia* hanes maith o ddigartrefedd ac roedd yn ddibynnol ar sylweddau ers llawer o flynyddoedd.

Trwy gefnogaeth The Wallich, roeddem yn gallu cartrefu Olivia gyda’i phartner a darparu cefnogaeth ddwys i’w helpu i reoli pob agwedd ar eu bywydau.

Mae hi wedi gwario’r arian ar liniadur newydd gan ei bod eisiau cwblhau cwrs gyda’r Brifysgol Agored.

Maya

Roedd Maya* mor ddiolchgar am yr arian.

Mae hi wedi medru rhoi £200 yr un i’w phlant, rhywbeth nad yw hi erioed wedi gallu ei wneud o’r blaen.

Maen nhw wedi rhoi £50 ar gyfer y nwy a’r trydan fel eu bod yn cael mantais cyn y cynnydd mewn prisiau.

Ethan

Cynlluniodd Ethan* daith gyda’i fab gyda rhywfaint o’r arian.

Hefyd, talodd yn ôl i’w fodryb a oedd wedi benthyca £400.00 iddo ar gyfer prynu carped pan symudodd i mewn i’w fflat gyntaf.

Jordan

Roedd Jordan* yn hapus i gymryd rhan yn yr ymchwil ac yn falch iawn o fod wedi derbyn yr arian.

Roedd Jordan yn bwriadu rhoi hanner yr arian i’w ddau blentyn gan ei fod yn teimlo, ers colli ei swydd a dod yn ddigartref, na allai ddarparu’r hyn yr oedd yn ei ddymuno ar eu cyfer.

Dywedodd hefyd y byddai hyn yn ei helpu i brynu dillad iddo’i hun ac i dalu ei filiau.

Jack

Mae gan Jack* hanes o gysgu allan a chael mynediad i lety brys, roedd wedi bod yn cysgu mewn pabell pan ddechreuon ni ymgysylltu.

Roedd yn hapus i gymryd rhan yn yr ymchwil. Oherwydd ei bryder a delio â phobl newydd, roedd yn ddelfrydol medru cysylltu ag o dros y ffôn.

Mae’r arian wedi bod yn fuddiol iawn ac wedi galluogi Jack i gael ci.

Roedd Jack wedi bod yn siarad ers cryn amser am gael ci i’w gynorthwyo gyda’i iechyd meddwl a gweithgaredd corfforol, felly mae’r arian ychwanegol wedi ei gwneud hi’n bosibl iddo ymrwymo i hynny.

Roedd Jack yn meddwl fy mod yn tynnu ei goes pan ddywedais wrtho ei fod wedi cael ei ddewis, yn enwedig pan ddywedais wrtho faint o arian yn union y byddai’n ei dderbyn – roedd wedi rhyfeddu.

Tracey

Roedd Tracey* yn cael ei chefnogi gan The Wallich ac wedi symud allan o lety Gwely a Brecwast ac i’w heiddo ei hun yn ddiweddar.

Nid yn unig fod yr arian ei helpu’n ariannol, ond roedd hefyd agorodd ei chyfrif banc ei hun gyda chymorth a bellach yn rheoli ei harian ei hun.

Dywedodd Tracey ei bod yn mynd i ddifetha ei chi drwy brynu teganau neis iddo a gwario’r gweddill ar ei fflat gan nad oedd ganddi erioed arian sbâr i wneud dim byd dymunol ar ei chyfer hi ei hun.

Casgliad: Cam tuag at rymuso a newid

Mae canlyniadau’r treial trosglwyddo arian parod hwn yn ein hatgoffa o effaith bosibl grymuso unigolion â’r rhyddid i wneud eu penderfyniadau ariannol eu hunain.

Er bod pryderon a risgiau’n gysylltiedig â’r treial a gwersi i’w dysgu, mae’r straeon a rennir gan gyfranogwyr yn dangos sut, o gael y cyfle, mae llawer o bobl yn defnyddio cyfleoedd o’r fath i wella eu hamgylchiadau, adeiladu sefydlogrwydd, a buddsoddi yn eu dyfodol.

Mae’r treial wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar sut y gall cymorth ariannol anghyfyngedig helpu’r rhai sy’n wynebu digartrefedd, nid yn unig i oroesi, ond i ffynnu.

Trwy ymddiried mewn unigolion i wneud dewisiadau drostynt eu hunain, gallwn feithrin mwy o ymdeimlad o ymreolaeth ac urddas yn eu taith tuag at ailadeiladu eu bywydau.

Gall prosiectau arloesol fel hyn baratoi’r llwybr ar gyfer mentrau yn y dyfodol sydd â’r nod o dorri’r cylch digartrefedd a chynnig cyfle i fwy o bobl lunio eu dyfodol eu hunain.