Nod y fframwaith yw helpu pobl, sefydliadau a systemau i atal adfyd a thrawma a’u heffeithiau negyddol cysylltiedig.
Bydd hyn hwyluso datblygiad dull gweithredu ar draws pob system i gefnogi anghenion pobl sydd wedi wynebu adfyd a thrawma a’i nod yw dwyn cysondeb a chydlyniant i gefnogi’r ymdrech honno a sicrhau ei fod yn bodloni anghenion y rhai y mae trawma yn effeithio arnynt.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Ymarfer Trawma Cenedlaethol ar gyfer Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a darparodd The Wallich ymateb manwl yn seiliedig ar ein profiad o sefydlu dulliau sy’n ystyriol o drawma ym mhob maes o’r gwaith a wnawn.
Rydyn ni’n teimlo bod ein symud at ddulliau sy’n ystyriol o drawma wedi bod yn drawsnewidiol i The Wallich.
Mae’r pwyslais hwn ar dosturi a dealltwriaeth i adeiladu cymunedau yn awr wedi’i sefydlu ar draws gwerthoedd ein sefydliad.
Felly, fe allwn fod yn hyderus yn ein gobaith y caiff dulliau sy’n ystyriol o drawma eu sefydlu ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Caiff gwaith partneriaeth a chydweithrediadau eu gwella’n sylweddol drwy gyd-ddealltwriaeth o drawma ar draws yr holl asiantaethau sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth.