Arolwg Ffordd o Fyw ar y Stryd De Cymru 2016-17

01 Jan 2018
textimgblock-img

Crynodeb 

Mae’r Arolwg Ffordd o Fyw ar y Stryd yn ddadansoddiad o’r niferoedd a gasglwyd gan ein Timau Ymyriadau Cysgu Allan yn Ne Cymru rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017, sy’n dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n byw ar y stryd yng NghaerdyddCasnewyddPen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe dros y flwyddyn. 

Mae ein defnyddwyr gwasanaeth yn fwy nag ystadegau, ond drwy ddeall cymaint â phosibl am faint o bobl sydd angen defnyddio ein gwasanaethau, a gwasanaethau eraill tebyg, rydyn ni’n rhoi ein hunain yn y sefyllfa orau i allu gwneud argymhellion polisi effeithiol i ddylanwadwyr mewn llywodraeth leol a chenedlaethol.

Mae pobl sy’n byw ‘Ffordd o Fyw ar y Stryd’ yn bobl sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar y strydoedd. 

Mae hyn yn cynnwys y rheini sy’n cysgu allan, ond hefyd unigolion sy’n treulio amser mewn llety argyfwng neu lety dros dro, neu sydd heb lety addas fel arall. 

Mae’r adroddiad hwn yn parhau o’r lle y daeth yr adroddiadau blaenorol ar Gaerdydd a Chasnewydd i ben; hynny yw, mae’r data’n dod o’r cyfnod rhwng mis Tachwedd 2016 a mis Hydref 2017.

Darllenwch yr adroddiad

Tudalennau cysylltiedig