Raffl yn cau: Dydd Gwener 17 Ionawr 2025
Enillwyr yn cael eu cyhoeddi: Dydd Gwener 31 Ionawr 2025
Mae tocynnau raffl yn dechrau o £2.
Gallai un llyfr o docynnau (£10) dalu am ychwanegiad brys at danwydd gaeaf i helpu pobl sy’n teimlo’n oer yn eu cartrefi.
Gallai prynu neu werthu pedwar llyfr o docynnau (£40) ddarparu gwerth pythefnos o siopa bwyd sylfaenol gan sicrhau nad oes rhaid i unigolion a theuluoedd ddewis rhwng bwyta a gwresogi y gaeaf hwn.
Oes gennych chi ddawn dweud neu a oes gennych chi ambell ddigwyddiad Nadoligaidd ar y gweill?
Gwerthwch docynnau raffl i ni yn eich cymuned. Cysylltwch â’n tîm i ddod yn werthwr yn y gymuned.
E-bost dosomething@thewallich.net
Ffôn: 02920 668 464
Newyddion gwych! Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dychwelyd bonion yr holl docynnau ar gyfer tocynnau sydd wedi cael eu gwerthu a thocynnau heb eu gwerthu erbyn 17 Ionawr 2025.
Dim ond ychydig o’r pethau y mae pobl Cymru yn delio â nhw yw biliau cynyddol, taliadau morgais a rhent uchel, prisiau bwyd eithafol a chyflogau isel.
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith uniongyrchol ar aelwydydd yng Nghymru ac yn rhoi llawer mwy o bobl mewn perygl o fod yn ddigartref.
Nod ymgyrch gaeaf The Wallich 2024 yw lliniaru’r caledi a wynebir gan unrhyw un sy’n ddigartref, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu mewn tai agored i niwed yng Nghymru yn ystod misoedd oer y gaeaf.
Er bod camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd i helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru a ledled y DU, mae digartrefedd yn dal ar gynnydd.
Os rydych chi neu aelod o’ch teulu yn teimlo eich bod yn cael problemau gyda gamblo, gallwch chwilio am gyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr proffesiynol ar Gambleaware drwy ffonio 0808 8020 133 am ddim neu fynd ar y wefan www.gambleaware.co.uk.