Fel elusen ddigartrefedd a chysgu ar y stryd fwyaf Cymru, rydyn ni’n gweithio’n eithriadol galed i ddiogelu pobl sy’n ynysig ac mewn perygl yn ystod argyfwng COVID-19. Ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain, credwn y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wneud mwy i helpu pawb i gadw’n ddiogel.
Ers i Lywodraeth y DU gyhoeddi ‘cyfnod dan-glo’ ar 23 Mawrth, mae’r Wallich wedi parhau i redeg 24 o’n gwasanaethau mwyaf hanfodol ar draws Cymru, i helpu ein defnyddwyr i hunan-ynysu’n ddiogel fel sy’n ofynnol.
Er y gwelsom enghreifftiau di-ri o garedigrwydd a chyd-gefnogaeth gan gyrff llywodraeth, partneriaid trydydd sector a’r cyhoedd, nodwn isod bum peth sydd eu hangen arnom er mwyn gallu parhau ein gwaith cymorth hanfodol.
Yn union fel y mae staff iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda phobl fregus yn ein cymdeithas, mae ein staff allgymorth a phreswyl ninnau hefyd yn darparu gwasanaethau cymorth hollbwysig i bobl ag anghenion eithriadol gymhleth, ac mae’n hanfodol iddynt wybod a oes risg o heintio.
Yn syml, ni allwn ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn heb weithlu iach, a phrofion yw’r unig ffordd o fod yn sicr bod ein staff yn ffit i weithio.
Oherwydd y prinder byd-eang o gyfarpar diogelu personol, ni allwn ddarparu popeth sydd ei angen ar ein staff i gadw’n ddiogel a lleihau’r risg o heintio.
Yn union fel y profion coronafirws, rhaid i’n staff rheng flaen gael eu hystyried fel blaenoriaeth gan y llywodraeth os ydynt am barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol, neu gallai mwy o bobl ganfod eu hunain yn byw ar y stryd.
Er yn deall a derbyn bod yr heddlu ac awdurdodau lleol wedi cael pwerau ychwanegol i warchod iechyd y cyhoedd dros gyfnod yr argyfwng, rydym yn gwbl bendant na ddylai pobl ddigartref, yn enwedig rhai sy’n cysgu ar y stryd, gael eu heffeithio’n anghymesur gan y pwerau argyfwng hyn.
Nid yw’n dderbyniol y gallai’r heddlu symud pobl sy’n cysgu ar y stryd i rywle arall os yw eu hamgylchiadau personol yn golygu nad oes ganddynt unlle diogel arall i fynd.
Rydym yn croesawu’r ymrwymiad a’r cyllid gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i drefnu llety argyfwng i bobl sy’n cysgu ar y stryd, a byddwn yn gweithio’n gyda’n holl bartneriaid i sicrhau bod pob unigolyn sydd angen hyn arnynt yn gallu manteisio ar y llety hwn.
Gofynnwn hefyd y gallwn achub ar y cyfle hwn i weithio gydag unigolion i asesu pa anghenion cymorth sydd ganddynt, er mwyn dod o hyd i lety hirdymor cynaliadwy ar eu cyfer.
Ni ddylai pobl gael eu gorfodi’n ôl ar y stryd unwaith y daw’r argyfwng hwn i ben ac na fydd y llety argyfwng mwyach ar gael.
Wrth i ni ystyried rhyddhau troseddwyr risg isel yn gynnar o garchardai Cymru, nawr yn fwy nag erioed rhaid i ni fod yn sicr nad yw pobl yn cael eu rhyddhau i fod yn ddigartref.
Rhaid i Wasanaeth Prawf a Charchardai EM sicrhau bod gan bob unigolyn gartref sefydlog i fynd iddo ar ôl eu rhyddhau, ac os nad oes ganddynt un, eu cyfeirio at yr awdurdod lleol a’r gwasanaethau digartrefedd i ddod o hyd i lety argyfwng ar eu cyfer.
Rhannwch yr hyn a ofynnwn amdano ar y cyfryngau cymdeithasol, a chysylltu â’ch cynrychiolwyr llywodraeth – eich Aelod Cynulliad a / neu eich Aelod Seneddol.
Gofynnwch iddynt gefnogi’r pethau a ofynnwn amdanynt a helpu i gadw pawb yn ddiogel.
Dilynwch ein sianeli cymdeithasol
Twitter: @TheWallich
Facebook: The Wallich Wales
Instagram: @homelessinwales
LinkedIn: The Wallich
YouTube: The Wallich
I ofyn cwestiwn neu wneud sylw am y gwasanaethau a ddarparwn ar draws Cymru, e-bostiwch ein tîm Polisi a Materion Cyhoeddus ar communications@thewallich.net