Ymateb elusen y Wallich i effaith Covid-19 ar bobl ddigartref

Mae peryglon cysgu ar y stryd wedi cynyddu gyda bygythiad COVID-19

16 Mar 2020

Yn sgîl presenoldeb cynyddol COVID-19 (Coronafirws), roeddem eisiau trafod sut y mae’r firws yn effeithio ar bobl sy’n cysgu ar y stryd, ac ar y bobl a gefnogwn, beth y mae’r Wallich yn ei wneud am hyn a sut y gall y cyhoedd helpu.

Meddai Sian Aldridge, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro y Wallich, elusen ddigartrefedd a chysgu ar y stryd fwyaf blaenllaw Cymru:

“Gyda’r bygythiad oddi wrth COVID-19, mae peryglon cysgu ar y stryd wedi cynyddu. Fel sector, mae’r Wallich ac elusennau digartrefedd eraill wedi bod yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal at wybodaeth am y firws – p’un ai ydyn nhw mewn hosteli neu’n cysgu ar y stryd. I bobl sy’n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd, sydd efallai wedi datgysylltu mwy nag arfer o’r newyddion a’r cyngor y mae llawer ohonom yn ei dderbyn, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pawb yn ddiogel.

“Rydyn ni’n cylchredeg dim ond y cyngor, ac yn dilyn y prosesau, sydd wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydyn ni’n gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth a roddwn i bobl yn briodol a byddwn yn gweithio mewn cydweithrediad â grŵp bach, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Cymorth Cymru ac asiantaethau eraill yn y sector, i wneud yn siŵr ein bod i gyd ar yr un dudalen. Rydyn ni’n cyfathrebu’n rheolaidd â’n staff, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth a’r sector yn gyffredinol.

“Mae ein timau’n annog pobl ar y stryd i olchi eu dwylo’r un mor rheolaidd â phawb arall ac yn darparu hylif diheintio dwylo i rai nad oes ganddynt fynediad at ddŵr a sebon. Bydden ni’n annog yr holl gyfleusterau golchi dwylo cyhoeddus i sicrhau bod gan bob dinesydd, gan gynnwys pobl ddigartref, hawl i olchi eu dwylo ac amddiffyn eu hunain rhag y firws hwn.

“Gall bod yn ddigartref fod yn brofiad unig ac ynysig iawn – gallai hyn waethygu. Ni ddylai fod gan bobl ofn ymgysylltu â phobl sy’n cysgu ar y stryd, byddwch yn gall ond yn dosturiol.”

Cyhoeddwyd y dyfyniad hwn hefyd ar WalesOnline – ‘These are the steps being taken to protect homeless people from coronavirus’ ym mis Mawrth 2019

Tudalennau cysylltiedig