Mae wedi bod yn fis prysur o redeg, rafflau a chodi arian yn y gweithle ac mewn ysgolion ers lansio’r ymgyrch Cadw’r Golau Ymlaen, a diolch i chi – mae £26,635 eisoes wedi’i godi tuag at ein targed o £89,000.
Dyma drosolwg sydyn ar sut y mae ein cefnogwyr wedi helpu hyd yma:
Ar ddydd Sul 6 Hydref, ymunodd 50 o redwyr hynod â #TeamWallich i redeg Hanner Marathon Caerdydd, gan godi swm aruthrol o £13,390.85.
Ni allwn fod yn fwy balch o’n rhedwyr #TeamWallich wnaeth ymdrech wych i godi gymaint o arian â phosib i helpu i dalu am ein Lloches Nos yng Nghaerdydd.
“Mae yna wir deimlad o gymuned a pherthyn yn y Wallich, ac roedd hyn yn fwy amlwg fyth ar ddiwrnod y ras. Roedd llwyth o gefnogaeth ac anogaeth gan bawb, gan gynnwys y Prif Weithredwr yn ei siwt deinosor!”
– Rhedwr Hanner Marathon Caerdydd, 2019
Y mis hwn, rhaid i enillydd y cymorth anwylaf fynd i’r ysgolion ar draws Cymru sy’n cymryd rhan yn Wallich Onesies a gweithgareddau eraill i godi arian.
Mae Wallich Onesies yn golygu cynlluniau gwersi am ddim i ysgolion, gan helpu i godi ymwybyddiaeth a gwybodaeth myfyrwyr o’r problemau sydd gan bobl ddigartref. Enwebodd y disgyblion hefyd un diwrnod i wisgo eu onesies gorau i’r ysgol a chodi arian hanfodol i’r Wallich.
Mae plant sy’n dysgu am ddigartrefedd wedi codi mwy na £1,500 hyd yma.
Yn yr hydref, bu’n cefnogwyr corfforaethol yn brysur yn codi arian i’r Wallich, drwy ein her flynyddol, Her y Cwmnïau Corfforaethol.
Derbyniodd bum tîm o weithwyr diwyd o gwmnïau Golley Slater, PwC, Celtic English Academy, ISG plc a Royal Educare her i godi gymaint o arian ag y gallent gyda £50 o fuddsoddiad dros 50 diwrnod.
Cafwyd amrywiaeth da o weithgareddau codi arian yn cynnwys cystadleuaeth pobi, rafflau, digwyddiadau Calan Gaeaf, noson gyda seicig a ‘Diwrnod Crys Ych’.
Llwyddodd y timau i gyd i godi swm gwych o £8,014.73 i gefnogi’r ymgyrch Cadw’r Golau Ymlaen. Da iawn chi dimau.
Diolch i gefnogaeth hael ein cymuned a’n busnesau, rydyn ni hefyd wedi derbyn dros £5,000 drwy roddion ariannol, gwerthu tocynnau raffl a gwerthu cardiau Nadolig.
Mae pob £41 a godir yn talu am noson yn ein Lloches Nos argyfwng sy’n rhoi lloches, cynhesrwydd a chymorth i rywun na fyddai ganddynt ddewis fel arall ond treulio noson ar y stryd.
Os am gyfrannu tuag at Cadw’r Golau Ymlaen, mae digonedd y gallwch ei wneud:
I gael gwybod mwy, e-bostiwch dosomething@thewallich.net