Mae’r prosiect, a sefydlwyd yn 2016, ac sy’n cael ei ddarparu gan Theatre vs Oppression (TvO) mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a The Wallich, yn grymuso pobl fregus i rannu eu stori mewn ffordd greadigol, bersonol sy’n ysgogi’r meddwl.
Caiff Behind the Label ei chynhyrchu a’i pherfformio gan grŵp o bobl go iawn, sy’n rhannu eu profiadau bywyd – sy’n cynnwys trawma, caethiwed, digartrefedd neu broblemau iechyd meddwl – ac sydd wedi’u labelu gan gymdeithas.
Bydd y perfformiad gonest hwn yn herio syniadau a rhagdybiaethau aelodau’r gynulleidfa o bobl a phroblemau penodol. Mae’n gofyn i bawb edrych y tu ôl i labeli negyddol fel ‘jynci’ neu ‘droseddol’ a gwrando ar straeon y bobl sy’n mynd law yn llaw â nhw.
“Rwy’n meddwl fy mod i wedi dweud rhai pethau am y tro cyntaf erioed, ac mae’n faich enfawr oddi ar fy ysgwyddau… rwyf wedi dod o hyd i wahanol ffyrdd o fynegi fy hun .”
Mae Behind the Label wedi rhoi cyfle i’r cyfranogwyr feithrin eu hyder, trafod eu profiadau, gwneud cyfeillion newydd, a dysgu sgiliau newydd y gallan nhw eu defnyddio yn y dyfodol. I baratoi ar gyfer y sioe, bu’r cyfranogwyr mewn gweithdai creadigol arbennig, o ysgrifennu sgriptiau i ddylunio setiau.
Hefyd, mae cleientiaid wedi bod yn gweithio gyda staff yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i ddysgu sgiliau ymarferol eraill fel hebrwng, sgiliau technegol ar gyfer y llwyfan a marchnata.
Gwyddom fod y perfformwyr yn falch o fod ar lwyfan theatr eiconig yng Nghymru – cyfle nad yw llawer yn ei gael.
“Pobl ydym ni i gyd. Felly dylai hi fod, ac nid y label a roddir i ni.”
Ble: Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Pryd: dydd Iau 13 a dydd Gwener 14 Rhagfyr 2018 am 8pm.
Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru am £12 yn unig.
Mwy o wybodaeth am Behind the Label.