Ac yntau’n wynebu’r rhwystr o fod â chofnod troseddol, gweithiodd Kingsley gyda’n prosiect Meithrin Cyfleoedd, Sgiliau a Llwyddiant (BOSS) ni er mwyn symud tuag at gam newydd yn ei fywyd, a hynny er gwell.
Mae BOSS yn gweithio gyda phobl sydd ag euogfarnau i leihau cyfraddau aildroseddu a’r risg o ddigartrefedd.
“Rydw i wedi bod â dyslecsia ers oeddwn i’n ifanc. Mae fy mam yn glyfar iawn ond doedd hi ddim yn gallu gwneud llawer am y peth oherwydd y plant, ond rydw i wedi’i chael yn anodd darllen ac ysgrifennu erioed; yn gorfforol, doeddwn i ddim yn gallu.
Roeddwn i’n mynd yn rhwystredig ac yn digalonni. Roedden nhw’n rhoi plant fel fi mewn rhywbeth roedden nhw’n ei alw’n addysg arbennig. Roedd fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol yn eithaf cythryblus a wnes i ddim trafferthu mynd i’r tri arholiad TGAU roeddwn i fod i’w sefyll.
Doeddwn i erioed wedi ymhél â chyffuriau na dim byd fel ’na; gwneud pethau gwirion mewn tafarndai ac ati oedd yn fy nghael i mewn i drwbl.
Roedd gen i broblemau gydag alcohol a lle roedd pethau wedi mynd o chwith yn fy mywyd. Rydw i’n un o’r bobl hynny ddylai beidio ag yfed oherwydd dydw i ddim yn meddwl am y goblygiadau.
Rydw i’n aeddfed nawr ond nid fy nedfryd ddiwethaf oedd yr unig dro i mi fod yn y carchar. Roeddwn i wedi bod i mewn ac allan am amser hir.
Pan oeddwn i’n 27, roeddwn i allan o’r carchar ac yn benderfynol o wneud yn dda am tua naw blynedd, ond pan aeth fy mherthynas gyda fy nghariad a fy mhlentyn ar chwâl, es i’n ôl at fy hen arferion gyda’r criw pêl-droed, yn yfed ac yn gwneud pethau gwirion.
Pan ddois i allan o’r carchar, roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n gallu mynd yn ôl i fyd gwaith oherwydd fy agwedd at waith – roeddwn i wedi cael swyddi lle roedd pobl yn ymddiried ynof i yn y carchar – ac roeddwn i eisiau ceisio profi fy hun.
Roeddwn i yn y carchar pan glywais i am Brosiect BOSS y Wallich.
Roedd bywyd yn y carchar yn eithaf undonog; mae strwythur iddo, ychydig fel Groundhog Day. Does dim llawer o gyfleoedd i bobl gael help pan maen nhw’n mynd yn ôl i’r gymuned, ond fe ges i glywais i am BOSS gan bobl yn y carchar ac fe welais daflen oedd yn mynd o gwmpas.
Edrychais ar gwrs pum diwrnod – roedd yn taro tant gyda fi ac yn edrych fel rhywbeth y buaswn i’n hoffi ei wneud pan fyddwn i’n gadael y carchar.
Pan gefais i fy rhyddhau, es i ar drywydd y cwrs. Roedd BOSS yn garedig iawn ac yn llawer o help. Fe wnaethon nhw fy helpu i gyflawni’r hyn roeddwn i eisiau ei wneud a rhoi cefnogaeth i mi.
Roeddwn i eisiau bod yn fanciwr taflu (slinger banksman) – yn gweithio gyda chraeniau. Yn syml, rydyn ni’n adeiladu adeilad newydd o gwmpas y craen.
Cyn i mi fynd i’r carchar, roeddwn i’n gweithio fel labrwr, neu handyman, ar safle adeiladu. Pan oeddwn i’n gweithio ar brosiectau mawr, roeddwn i’n sylwi ar y peiriannau ac yn teimlo bod hwn yn llwybr da i’w ddilyn, a’i fod yn eithaf cyffrous hefyd.
Mae Sarah, fy ngweithiwr cymorth, wedi bod yn help mawr i mi wrth geisio cyrraedd y nod; alla i ddim ei chanmol hi ddigon.
Fe wnes i roi syniad i Sarah o ba ddarparwyr a hyfforddiant roeddwn i eisiau eu dilyn, ac mae hi wedi bod yn llawer o help yn hyn o beth. Mae hi wedi fy annog i hefyd – unwaith mae rhywun eisiau llwyddo, mae hynny’n gwneud i chi deimlo’n well.
Oherwydd y dyslecsia, rydw i’n cael trafferth gyda gwaith papur a gwneud apwyntiadau, felly mae hi wedi fy helpu i gyda hynny. Yr unig beth roedd rhaid i mi ei wneud oedd canolbwyntio ar y theori er mwyn pasio fy mhrofion. Mae hi wedi cymryd llawer o’r baich gwaith oddi arna i a fy helpu i fynegi fy hun pan oedd pethau’n anodd.
Roedd bod yn rhan o BOSS yn golygu fy mod i’n teimlo cyfrifoldeb i lwyddo a gwneud fy ngorau glas oherwydd fy mod i wedi cael cyfle – gallai rhywun arall fod wedi cael y cyfle.
Rydw i’n gwybod bod rhaid i mi adolygu dair gwaith yn galetach na rhywun mwy academaidd, felly mae BOSS wedi fy helpu i ganolbwyntio.
Rydw i’n dal yn gweithio fel labrwr, ond gyda’r gobaith o gyrraedd fy nod.
Rydw i wedi wynebu cymaint o rwystrau yn fy mywyd, ond nawr rydw i’n teimlo fy mod i’n gallu gwneud unrhyw beth. Dydw i ddim gadael i rwystrau fy nhrechu i dim mwy.
I unrhyw un sydd wedi bod yn y carchar, rydw i eisiau iddyn nhw wybod: os ydych chi’n meddwl yn bositif am y dyfodol, gallwch chi gymryd camau positif i wella’ch bywyd. Edrychwch ar beth mae pobl eraill wedi’i wneud ar ôl dod allan.
Mae rhai carcharorion angen rhywbeth positif i ganolbwyntio arno, rhywfaint o obaith, er mwyn gwybod bod newid yn bosib – mae hi hefyd yn dda gwybod bod pobl eraill ar gael i’ch helpu chi.
Mae Sarah Jones, Mentor BOSS y Wallich, wedi canmol Kingsley yn ei hadborth:
Pan ddechreuodd Kingsley weithio gyda BOSS, roedd ganddo brofiad gwaith eang ond roedd yn amau ei allu oherwydd bod ganddo ddim cymwysterau academaidd fel TGAU.
Mynegodd ei fod yn cael trafferth gydag arholiadau a phrofion oherwydd ei ddyslecsia a’i fod yn poeni na fyddai’n pasio ei arholiadau theori.
Drwy gydol ei daith, mae wedi bod yn frwdfrydig bob amser, ac fe basiodd ei brawf A40a Taflwr/Signalydd yn rhwydd. Bu’n adolygu am fisoedd cyn y cwrs i sicrhau ei fod yn gwneud ei orau glas.
Erbyn hyn mae ganddo swydd yn gweithio ar safle adeiladu ac mae BOSS wedi cael adborth yn dweud ei fod yn gwneud yn dda iawn.
Dylai Kingsley fod yn falch iawn o’i gynnydd a’r hyn mae wedi’i gyflawni, er ei fod wedi gorfod goresgyn sawl rhwystr. Drwy gydol ei daith, mae wedi bod yn gwbl benderfynol o lwyddo.
Nawr, mae’n symud ymlaen gyda’i fywyd ac rydyn ni’n hapus ein bod yn rhan o’i daith.”