Mae’r broses gomisiynu bresennol yn annog ras i’r gwaelod o ran pris.
Mae’n golygu y gall darparwyr fel Y Wallich, sy’n ceisio darparu gwasanaethau cymorth proffesiynol o ansawdd uchel, ei chael yn anodd denu a chadw staff prosiect gan geisio rhedeg y mudiad am gost ddigon isel i ennill tendrau.
Mae darparu cymorth o safon i’n cleientiaid yn sicr yn waith caled, oherwydd mae gofyn i staff feddu ar wybodaeth a sgiliau uwch ym maes tai, yn ogystal â’r maes gofal sy’n seiliedig ar drawma, a hyd yn oed sut i ymateb i argyfyngau iechyd.
Er eu bod yn teimlo fel gweithiwr cymdeithasol, therapydd neu barafeddyg hyd yn oed, anaml iawn y mae’r staff yn ysgwyddo cyfrifoldebau o’r fath, sy’n golygu bod staff cymorth yn teimlo’n ddigalon ac nad yw eu gwerth yn cael ei gydnabod.
Er bod canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ar gyfer comisiynu gwasanaethau drwy’r Grant Cymorth Tai yn gryf ac yn cynnwys manylebau seiliedig ar dystiolaeth o’r mathau o wasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn wrth fynd i’r afael â digartrefedd, hoffem weld hyn yn mynd gam ymhellach.
Rydyn ni’n galw am gydnabod statws proffesiynol staff cymorth, efallai drwy hyfforddiant achrededig a chymwysterau gan y Sefydliad Tai Siartredig (CIH).
Gellid sicrhau chwarae teg hefyd drwy egluro cymarebau staff-i-gleient rhesymol ar gyfer gwahanol fathau o waith cefnogi er mwyn sicrhau cynnydd mewn cyllid yn unol â niferoedd uwch o atgyfeiriadau, gan gadw telerau cyflogaeth teg a galluogi pob darparwr gwasanaeth i dalu’r cyflog byw go iawn i’w holl staff.
Hoffem weld digartrefedd a chymorth tai yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol fel galwedigaeth wirioneddol ac fel rhywbeth sy’n haeddu parch a thâl cyfartal â gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen eraill, sydd hefyd wedi cyfrannu cymaint tuag at gadw pobl yn ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws.