Er bod y dyletswyddau presennol ar awdurdodau lleol i liniaru digartrefedd i’w croesawu, credwn mai dull seiliedig ar hawliau dynol yw’r ffordd orau bosibl o sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr urddas sylfaenol o gael lle diogel i’w alw’n gartref.
Mae tai o ansawdd da yn rhan hanfodol o fyw bywyd hapus ac iach.
Gwyddom fod peidio â chael llety addas a sefydlog nid yn unig yn arwain at iechyd corfforol a meddyliol gwaeth, ond hefyd at ganlyniadau addysgol gwaeth ymysg plant, rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael gwaith a mynediad at wasanaethau lleol.
Hefyd, mae ymchwil wedi dangos bod digartrefedd, i raddau anghymesur, yn fwy tebygol o ddigwydd i bobl sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, neu sydd wedi profi rhyw fath o drawma yn eu gorffennol.
Mae dull seiliedig ar hawliau dynol yn hanfodol er mwyn cydnabod anghenion cymhleth yr unigolion hyn, a allai fod ag anghenion cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu gyfiawnder troseddol, yn ogystal â chymorth tai.
Dim ond drwy waith amlasiantaeth effeithiol y gellir rhoi sylw llawn i’r anghenion hyn.