Blog gan Steve Masterman, Rheolwr y Rhwydwaith Myfyrio.
Yn The Wallich, fe wnaethom sylwi ein bod yn trin pobl â’u heriau yn ddyddiol, pan oedd angen i ni fynd at wraidd y rheswm pam eu bod yn digwydd mewn gwirionedd.
Rydyn ni i gyd yn ymwybodol bod y GIG dan bwysau aruthrol a bod gormod o geisiadau am wasanaethau cwnsela. Mae’n cymryd amser hir i gael apwyntiad cwnsela cyntaf drwy atgyfeiriad gan feddyg teulu, ac os nad yw’r cleient yn dod i’r apwyntiad, maen nhw’n aml yn ei gau am beidio â bod yn bresennol.
Gall blaenoriaethau newid i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi bob awr ac mae’n bosib y bydd apwyntiadau’n cael eu colli. Rydyn ni’n deall hynny.
Felly, rydym nawr yn chwilio am atebion, ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r unigolyn, er mwyn gwneud cwnsela’n fwy hygyrch.
Rydym yn ymwybodol y gall pobl fod ychydig dan ddylanwad wrth fynychu, eu bod yn cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n cael eu hystyried yn heriol fel arall.
Mae’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi gyda llawer mwy o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) wedi’u cofnodi, o’i gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae gan drawma cymhleth lawer o nodweddion priodoli, ac rydym yn gyfarwydd â’r rhain – fel y mae ein cwnselwyr.
Mae hyn yn gwneud y Rhwydwaith Myfyrio yn wasanaeth pwrpasol i sylfaen cleientiaid The Wallich ac mae’n rhan hanfodol o’n cenhadaeth o gael pobl oddi ar y strydoedd, cadw pobl oddi ar y strydoedd a chreu cyfleoedd i bobl.
Mae’r berthynas rhwng trawma a digartrefedd yn aml yn amlwg mewn llawer o’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi.
Mae llawer o bobl ag anghenion sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddewisiadau ffordd o fyw neu resymau amgylchiadol.
Mae trawma’n aml yn cael ei wreiddio’n ddwfn, gan ddigwydd fel arfer yn ystod plentyndod mewn cyfran fawr o’n grŵp cleientiaid, a gall trawma i oedolion waethygu ymhellach.
Mae’n cael ei guddio gan rai, rhywbeth sy’n gallu codi ym meddwl rhywun neu fel atgof o ddydd i ddydd.
Yn syml iawn, mae llawer wedi digwydd yn aml rhwng y profiad cyntaf a’r presennol.
I rai, nid yw hynny’n golygu nad yw yno, dim ond ei fod yn cael ei anghofio dros dro. Mae trawma’n aml yn mudferwi o dan yr wyneb, ac rydyn ni’n gweld cipolwg ar hyn o ran sut mae pobl yn cyfathrebu â’n staff cymorth.
I eraill, mae’n frwydr ddyddiol ceisio dod i delerau â digwyddiadau yn y gorffennol. Nid yw’n gadael eu meddwl am eiliad. Nid oes unrhyw lonydd oddi wrtho. Mae’n annioddefol.
Yn sydyn, mae ‘dewisiadau ffordd o fyw’ yn gwneud synnwyr – defnyddio cyffuriau neu alcohol, ymddygiad heriol, troseddu, byw ar gyrion ein cymunedau. Maen nhw’n llwybrau dianc, ond maen nhw’n gallu cael effaith sylweddol ar iechyd a lles rhywun.
Pan fyddwn yn ystyried beth mae rhywun wedi’i ddioddef, neu’n dal i fynd drwyddo, a yw’r nodweddion hyn yn afresymol? Wrth gwrs ddim.
Mae cwnselwyr yn y Rhwydwaith Myfyrio yn arbenigwyr mewn Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE) a Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE). Maen nhw’n disgwyl ymddygiad heriol ac ymgysylltiad gwael. Ond maen nhw’n gweithio gyda hynny.
Mae cwnsela’n gallu bod yn rhan hanfodol o ddeall trawma yn y gorffennol ac mae’n rhoi cyfle i weithio drwy ddigwyddiadau.
Mae person yn llawer mwy tebygol o wneud newid cadarnhaol hirdymor ar ôl archwilio digwyddiadau trawmatig a ddigwyddodd yn eu gorffennol.
Os mai dim ond un person sy’n gallu elwa fel hyn drwy wasanaethau cwnsela, mae’r canlyniad yn anfesuradwy.
Mae llawer o’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi wedi gwneud newid cadarnhaol ac yn parhau i wneud hynny, gan leihau’r berthynas hon rhwng trawma a digartrefedd.
Gall cynnydd fod yn gynnil neu fe all fod yn amlwg – gan ei gwneud yn amhosibl mesur llwyddiant.
Mae’r ffordd mae rhywun yn meddwl, er enghraifft, yn ymddangos yn fach ac ychydig yn ddi-nod ar y tu allan, ond i’r unigolyn, gallai hyn fod yn gam mawr ymlaen – yn ‘fflach o ysbrydoliaeth’.
Pan fydd yn rhaid i ni ddweud rhywbeth wrth rywun rydym yn siŵr y byddan nhw’n ymateb yn wael iddo, ond wedyn dydyn nhw ddim. Mae hyn yn annisgwyl, yn tydi?
Rydym yn cymryd sylw o hyn. Mae rhywbeth yn y broses wybyddol wedi newid, dealltwriaeth well o bethau? Derbyn? Dyma gynnydd, beth bynnag fo’r rheswm.
O wythnos i wythnos, gall ein cwnselwyr weld y gweddnewidiad yn ein cleientiaid.
Mae angen i ni fod yn wyliadwrus o unrhyw newidiadau, ni waeth pa mor fach ydyn nhw, ac annog ein cleientiaid i adeiladu ar hyn mewn ffordd therapiwtig.
“Maen nhw [y cleient] bellach yn gweithio fel gweithiwr cefnogi ac mewn llety diogel.”
“Roeddent [y cleient] yn gallu sefydlogi faint o sylweddau roeddent yn eu cymryd ac, ynghyd â chwnsela, dechreuasant raglen dadwenwyno ac adsefydlu. Erbyn hyn, maen nhw’n gweithio mewn swydd amser llawn.”
“Nid oedd [y cleient] yn meddwl am hunanladdiad mor aml, ac roedd yn fwy parod i adnabod ei batrymau meddwl di-fudd. Roedd yn ymddangos yn llawn cymhelliant i barhau i wneud y newidiadau cadarnhaol roedd wedi’u gwneud.”
“Ar ôl ei [y cleient] ail apwyntiad, dywedodd ei fod wedi’i ystyried yn ddefnyddiol iawn a’i fod yn teimlo’n ysgafnach. Bydd yn parhau i fynychu sesiynau cwnsela. Mae’n helpu i ddelio â thrawma o blentyndod, ac i gael agwedd fwy cadarnhaol at fywyd.”