Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth, sy’n caniatáu i’r heddlu arestio pobl am gysgu allan a begera yng Nghymru a Lloegr.
Er bod hwn yn gam positif, rydym yn dal yn bryderus y bydd mesurau newydd ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn parhau i olygu y bydd pobl yn cael eu cosbi am fod yn ddigartrefedd.
Mae Deddf Crwydradaeth 1824 yn dal i gael ei defnyddio i droseddoli pobl am gysgu allan a begera yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi cael ei diddymu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ar hyn o bryd mae unrhyw un sy’n cael eu heuogfarnu o dan y ddeddf henffasiwn a hynafol hon, sy’n defnyddio iaith wahaniaethol, yn wynebu dirwy o hyd at £1,000 a chofnod troseddol am ddwy flynedd.
Rydym o blaid ei diddymu am nad yw’r Ddeddf yn gwneud dim i fynd i’r afael ag achosion digartrefedd ac mae troseddoli pobl sy’n cysgu allan yn golygu y bydd eu sefyllfa’n parhau, ac yn aml yn gwaethygu.
Mi wnaethom ymuno â Crisis, Cymorth Cymru, Centrepoint, Homeless Link, Shelter Cymru, St Mungo’s, a Liberty yn 2020 i fod yn rhan o’r ymgyrch #ScraptheAct.
Mae’r Llywodraeth yn awr wedi derbyn gwelliant i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd o Dŷ’r Arglwyddi, a fydd yn diddymu’r Ddeddf Crwydradaeth yng Nghymru a Lloegr.
Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan fechan yn llwyddiant yr ymgyrch.
Mae’r newyddion hir-ddisgwyliedig bod y Ddeddf Crwydradaeth wedi’i diddymu, yn achos dathlu.
Mae’n gydnabyddiaeth symbolaidd nad yw digartrefedd yn drosedd ac na ddylai pobl sy’n ei brofi gael eu trin fel troseddwyr.
Mae’r Ddeddf ei hun hefyd yn defnyddio iaith israddol a gwahaniaethol nad yw’n addas yn yr 20fed ganrif, heb sôn am yr 21ain ganrif.
Ni fydd yr heddlu’n awr yn gallu arestio pobl o dan y Ddeddf am fegera, neu am nad oes ganddynt unman arall i fynd.
Mae’r niferoedd sy’n cael eu harestio a’u heuogfarnu o dan y Ddeddf Crwydradaeth wedi bod yn gostwng ers peth amser, ond ni fydd bellach yn opsiwn i’r heddlu sy’n ceisio symud pobl i rywle arall.
Rydym yn parhau i bryderu’n fawr am droseddoli pobl yn y dyfodol am nad oes ganddynt gartref, oherwydd darpariaethau eraill ym Mil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.
Mae Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn ddeddfwriaeth gymhleth ac eang ei chwmpas, sy’n cynnwys 13 o rannau sy’n ymestyn dros 307 o dudalennau, ac sydd wedi bod yn achos nifer o elfennau dadleuol, gan gynnwys cyfyngu ar yr hawl i brotestio, a dedfrydau llymach i bobl sy’n difrodi cerfluniau neu gofebau.
Y rhan sy’n achosi’r pryder mwyaf i ni, ynghyd ag elusennau digartrefedd a thai eraill, yw Rhan 4, ar ‘wersylloedd diawdurdod’.
Rydym yn credu y byddai ‘Rhan 4’ yn dal i droseddoli pobl sy’n cysgu allan neu sy’n cysgu mewn car neu fan.
Mae’r diffyg eglurder ynglŷn â’r hyn sy’n cyfrif fel ‘preswylio’ a’r posibilrwydd y gallai cymalau gael eu dehongli gan yr heddlu fel rhai sy’n cynnwys pobl heb unman i fynd, olygu y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn efelychu telerau cyfredol y Ddeddf Crwydradaeth.
Mae’r Llywodraeth yn bendant iawn mai diben Rhan 4 yw gweithredu yn erbyn gwersylloedd diawdurdod gan aelodau o’r cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (GRT).
Yn ein barn ni mae hon yn gyfraith sydd wedi’i llunio’n wael, ac yn un sy’n gwahaniaethu yn erbyn ethnigrwydd GRT, yn enwedig o ystyried prinder y safleoedd gwersylla cymeradwy ar gyfer Teithwyr sy’n cael eu dynodi gan awdurdodau lleol, ledled Cymru a’r DU yn gyffredinol.
Ni ellir caniatáu i ddiddymiad symbolaidd y Ddeddf Crwydradaeth dynnu sylw oddi ar broblemau eraill â’r ddeddfwriaeth, ac ni fyddwn yn cefnogi’r olaf oherwydd y gyntaf.
“Drwy gydol y pandemig coronafeirws, mae’r dull ‘Pawb i Mewn’ wedi dangos inni fod yr ewyllys a’r gallu i newid polisi mewn modd radical yn bodoli.
“Mae hi’n siomedig dros ben bod diddymiad positif yn awr yn cael ei glymu wrth ddeddf a fydd yn niweidiol mewn ffyrdd newydd.
“Ni ddylid trin digartrefedd fel trosedd ar unrhyw gyfrif. Byddwn yn parhau i ymgyrchu dros y bobl rydym yn eu helpu i sicrhau eu bod yn cael eu trin fel pobl, sy’n haeddu cymorth, gofal ac urddas.
Yr unig ffordd i roi diwedd ar ddigartrefedd yw trwy ddarparu cymorth seiliedig ar seicoleg, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, i ddod o hyd i gartrefi newydd ac i ailadeiladu bywydau.”