Arestio mwy o dan y Ddeddf Crwydradaeth yng Nghymru

Ein hymateb i'r cynnydd yn nifer y bobl ddigartref sy'n cael eu harestio

23 Jan 2020

Defnyddiwyd y Ddeddf Crwydradaeth gannoedd o weithiau yng Nghymru – 375 arést rhwng 2014 a 2018 – gan gynyddu nifer y bobl ddigartref sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol.

Wrth i ffigurau Cymru ddangos cynnydd mewn arestiadau Crwydradaeth, dyma’n hymateb.

Meddai Amy Lee Pierce, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus y Wallich, elusen ddigartrefedd a chysgu ar y stryd Cymru:

“Fel addewid Llywodraeth Cymru i Genedlaethau’r Dyfodol, rydyn ni eisiau gweld cymunedau ffyniannus yng Nghymru, lle nad yw pobl yn cael eu troi’n droseddwyr oherwydd eu sefyllfa gartref – neu ddiffyg un.

“Yn 2018 cefnogodd y Wallich 2,871 o bobl oedd yn byw ar y stryd, a rhwng 2015-18 mae cynnydd o 45% wedi bod yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghymru.

“Mae troi’r bobl a gefnogwn yn droseddwyr yn eithriadol wrthgynhyrchiol. Mae pobl fregus yn cael dirwyon na fedrant eu talu, gan arwain at dreulio cyfnodau diangen yn y carchar a pharhau’r cylch parhaus o ddigartrefedd ac atal unrhyw gyfle i symud ymlaen gyda’u bywydau.

“Mae’r Ddeddf Crwydradaeth wedi dyddio ac yn anaddas i’r diben. O ran iaith, yn ymarferol mae ei hystyr yn aneglur, ond mae ei hystyr gyfreithiol hefyd yn hynafol. Mae gan yr heddlu gyfreithiau eraill mwy modern y gallent eu defnyddio ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae’r Ddeddf yn cael ei defnyddio i erlyn pobl am gysgu ar y stryd. Nid yw digartrefedd yn drosedd, a rhaid i ni sicrhau nad yw’n dod yn un.

“Rydym yn siomedig bod mwy o bobl yn cael eu harestio yng Nghymru o dan y Ddeddf Crwydradaeth.

“Er bod y llywodraeth yn adolygu hyn, ynghyd â’n partneriaid ar draws y DU, rydyn ni’n galw am ddiddymu’r Ddeddf yn llwyr er mwyn rhoi’r gorau i dargedu pobl fregus.”

Beth yw’r Ddeddf Crwydradaeth?

Defnyddir Deddf Crwydradaeth 1824 hyd heddiw i erlyn pobl dim ond am gysgu ar y stryd a chardota ar draws Cymru a Lloegr.

Cefnogwn ddiddymu’r Ddeddf oherwydd nid yw’n gwneud dim i ateb y pethau sy’n achosi digartrefedd.

Mae Crisis, Centrepoint, Cymorth Cymru, Homeless Link, Shelter Cymru, St Mungo’s a’r Wallich i gyd yn galw ar Lywodraeth y DU – gyda phwysau gan bleidiau gwleidyddol Cymru – i ddiddymu’r Ddeddf.

textimgblock-img

#ScrapTheAct

Cefnogwch yr ymgyrch:

  • Cysylltwch â’ch AS / AC
  • Cysylltwch â’ch Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Am fanylion llawn am yr ymgyrch, ewch i’r dudalen gwe #ScrapTheAct

Tudalennau cysylltiedig