Gofyn am gymorth gan y gwasanaethau digartrefedd sy’n gallu’ch helpu chi yw’r cam cyntaf
Os ydych chi’n ddigartref neu’n meddwl y gallech chi fod yn ddigartref yn fuan, mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor.
Bydd gan eich cyngor neu’ch awdurdod lleol dîm Opsiynau Tai, a’u gwaith nhw yw mynd i’r afael â digartrefedd yn yr ardal.
Mae 22 o gynghorau yng Nghymru.
I ddod o hyd i’ch tîm Opsiynau Tai, chwiliwch am ‘Opsiynau Tai’ ac enw eich cyngor neu’ch ardal ar-lein.
________________________________________________________________________________________________
Ewch i weld ein cyfeiriadur gwasanaethau i ddod o hyd i brosiect digartrefedd yn eich ardal chi.
_________________________________________________________________________________________________
Elusen tai yng Nghymru yw Shelter Cymru ac mae eu gwefan a’u llinell ffôn yn rhoi cyngor a cyhmorth i bobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
0345 0755 005
Gallwch lwytho app Shelter Cymru i lawr ar gyfer iOS neu Android hefyd
____________________________________________________________________________________________________
Mae’r Samariaid yn gwrando ac yn cynnig cefnogaeth emosiynol.
Gallwch eu ffonio nhw am ddim ar unrhyw adeg.
116 123
Os hoffech chi siarad â rhywun yn Gymraeg, gallwch ffonio rhwng 7pm ac 11pm bob dydd o’r wythnos.
0808 1640 123
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer Cymru yn unig. Mae’r system yn wahanol yn Lloegr. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Homeless Link.
_______________________________________________________________________________________________________________________________________________
Mae StreetLink yn cysylltu gwasanaethau lleol â phobl sy’n cysgu ar y stryd yn eu hardal.
Rhagor o wybodaeth am StreetLink